Ddydd Sadwrn, Gorffennaf yr 8fed, 2006, agorwyd drysau Ysgol Gyfun Rhydfelen am y tro olaf er mwyn i gyn ddisgyblion, rhieni ac athrawon gael cyfle i fwrw golwg dros yr hen adeilad cyn i'r bulldozers fynd ati o ddifri' i'w ddarnio a'i ddymchwel. Nid bod llawer o waith dymchwel i'w wneud; fe'm syfrdanwyd o weld cyflwr truenus yr adeilad, a oedd yn ddigon siabi pan adewais yr ysgol naw mlynedd yn ôl. Sut ar wyneb y ddaear yr oedd disgwyl i bobl ifanc dderbyn addysg yn y fath le? Diolch byth fod cartref modern ac addas i'r ysgol yn agor ym mis Medi.
Safle newydd
Wrth gwrs, roedd dydd Sadwrn yn gyfle i ffarwelio â llawer mwy na chragen o adeilad gwag, fel y gŵyr unrhyw un a fu'n dilyn newyddion Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Yn sgîl penderfyniad amhoblogaidd Cyngor Rhondda Cynon Taf i newid enw'r ysgol yn ei safle newydd, roedd yn gyfle i ffarwelio â dros deugain mlynedd o hanes sydd ynghlwm â'r enw 'Rhydfelen'. Hon oedd ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf de Cymru. Rhydfelen a alluogodd pobl cymoedd y de i ail-afael yn eu hiaith a'u diwylliant cyn iddi fod yn rhy hwyr. Heb Rhydfelen, ni fyddai Llanhari, Y Cymer, Cwm Rhymni na'r llu o ysgolion eraill sy'n cynnal y Gymraeg yn ne Cymru.
Nid gormodiaith yw honni na fyddai'r tŵf diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc wedi digwydd oni bai am Rydfelen. Does ryfedd, felly, fod disgyblion yr ysgol, eu rhieni a'u hathrawon mor gyndyn o hepgor yr enw hwn.
Cyrhaeddais yr ysgol erbyn 1.00, pan oedd y rhan fwyaf o'r ymwelwyr wedi gadael, ond cefais groeso cynnes yn y ffreutur gan y prifathro, Mr Peter Griffiths, a ddechreuodd ei swydd rai blynyddoedd wedi i mi adael. Braf hefyd oedd hel atgofion gyda Mr Roy Davies; diflannodd y blynyddoedd a theimlwn fel petawn eto yn ddisgybl ysgol. Porais drwy'r llyfrau o ffotograffau ar y byrddau. Rhesi o perms unffurf a gwenau bach direidus. Bechgyn y chweched, a ymddangosai fel dynion aeddfed i mi yn y flwyddyn gyntaf, yn edrych fel plant. Daeth lwmp i 'ngwddf. Er bod llai na deng mlynedd ers i mi adael yr ysgol, roeddwn wedi anghofio'n llwyr am fodolaeth rhai pobl a oedd yn rhan mor bwysig o 'mywyd ar un adeg.
Crwydro'r coridorau
Ar ôl paned a theisen yn y ffreutur - a oedd yn llawer mwy blasus na'r cinio ysgol eildwym, seimllyd a weinid yn ystod fy nyddiau ysgol - es am grwydr. Lawr y cyntedd, a'r hen luniau o chwaraewyr rygbi disgleiriaf yr ysgol yn dal i addurno'r wal. Heibio'r bloc celf, a fu'n hafan braf i mi yn y chweched, a lawr at adeiladau Gwent. Codwyd yr adeiladau hynny ar frys yn 1917, yn lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd eu fframiau pren bron â phydru'n llwyr.
Es yna i mewn i'r neuadd, a theimlo'n ddrygionus braidd wrth gael cip ar dai bach yr athrawon! Wedyn o gwmpas y llwyfan, a hen arogl llychlyd, cyfarwydd, yn dod â llu o atgofion i'm meddwl. Cofio sefyll yn grynedig ar y llwyfan wrth ddarllen emyn yn y gwasanaeth ... sefyll y tu allan i ystafell y nyrs wrth aros am bigiad rubella ... ymarferion sioeau cerdd a'r nerfau'n rhacs cyn y perfformiad cyntaf. Cofio dyddiau da, a dyddiau diflas hefyd, nes bod rhyw deimlad rhyfedd chwerw-felys yn llifo drostaf.
Es allan eto i grwydro'r iard. Doedd neb o gwmpas bellach, a theimlwn yn nerfus braidd. Fe'm hatgoffwyd o ffilm arswyd - roedd fel petai pawb wedi gorfod ffoi o'r ysgol ar frys oherwydd rhyw zombies neu fampirod, a'r adeilad wedi'i adael i ddadfeilio yn y gwynt a'r glaw.
Dim sŵn bloeddio croch wrth y cae rygbi. Dim clepian caeadau a pharablu yn y ffreutur. Dim ond paent gwyrdd budr wedi plicio. Rhwd, traul a dadfeiliad ym mhob man a'r gwynt yn chwythu llwch ac ambell ddeilen.
Ond, o'r diwedd, mae'r ysgol yn cael adeilad newydd. Mae'r ysgol yr oedd llawer yn ei hewyllysio i fethu yn cael cartref hardd a'r adnoddau diweddaraf. Mae pennod newydd yn ei hanes ar fin dechrau, a chyfle i'r ysgol ffynnu. Os oes raid newid yr enw yn sgil hynny, nid yw'n bris rhy ddrud i'w dalu. Ni fydd cynddisgyblion Ysgol Rhydfelen yn anghofio'r enw.
Gan: Eiry Miles.
Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.
Oes gennych chi atgofion o Ysgol Rhydfelen? Rhannwch nhw trwy lenwi'r ffurflen isod!