Bodolai'r enw Pont-y-tŷ-pridd cyn i William Edwards gwblhau ei bont garreg un bwa dros yr afon Taf yn 1756 gan ddisodli pontydd simsan pren cynharach. Er i hyn arwain at fedyddio'r gymuned fechan yn Newbridge, yr enw Pontypridd a oroesodd yn swyddogol canrif union yn ddiweddarach. Trawsffurfiwyd cymeriad amaethyddol wledig yr ardal wrth i'r Chwyldro Diwydiannol gasglu nerth. Ni elwodd Pontypridd yn sgil agor Camlas Morgannwg (1795) hyd nes i gwmni Brown Lenox sefydlu eu gwaith cadwyni haearn ar lannau'r gamlas yn 1818. Eto i gyd, ei safle ddaearyddol fu'n bennaf gyfrifol am dwf cyflym y dref yn negawdau olaf y ganrif.
Eisoes roedd y rheilffordd rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd wedi agor yn 1841; a phan ddechreuodd y fasnach lo ddatblygu'n syfrdanol yn Aberdâr a Chwm Rhondda trwy orsaf brysur Pontypridd y cludai'r cwmnïau glo y miliynau o dunelli a allforiwyd o Gaerdydd a'r Barri.
Pontypridd oedd y porth allweddol i gymoedd y Taf, Cynon a'r Rhondda. Fel yr estynai'r dref hyd at y pentrefi cyfagos cynyddodd y boblogaeth yn sylweddol, gan godi o tua 4,000 yn 1850 i 12,300 (1881) a 43,200 erbyn 1911. O ganlyniad daeth Pontypridd yn ganolfan ddiwydiannol a gweinyddol o bwys, ac yn brif dref marchnad i ardal eang.
Dros y blynyddoedd heidiodd mewnfudwyr i'r dref o wahanol rannau o Gymru, Lloegr a'r Iwerddon - er nad oedd fawr o groeso i'r navvies Gwyddelig. Ond bu'n gyfnod adfydus gyda phroblemau cymdeithasol difrifol. I gynnal cyfraith a threfn sefydlwyd heddlu lleol yn 1840, a llys barn. Mewn ymgais i liniaru bywyd truenus y llai ffortunus agorwyd tloty yn 1865. Ar yr un pryd rhoddwyd blaenoriaeth i iechyd y cyhoedd trwy sicrhau cyflenwad o ddŵr iach.
Ochr yn ochr â'r dosbarth gweithiol gwelid aelodau o'r dosbarth canol hyderus yn amlygu eu hunain ym mywyd y dref. Adlewyrchwyd y balchder dinesig yn y sefydliadau a'r adeiladau cyhoeddus. Y Gymdeithas Lenyddol a sefydlwyd yn 1860 a ddarparai'r gwasanaeth llyfrgell cyn agor y Llyfrgell Rydd newydd yn 1890. Yn yr un flwyddyn cafwyd Neuadd Tref newydd, theatr a Brigâd Dân. Agorwyd adeiladau'r Cyngor Dinesig ar Stryd Gelliwastad yn 1905, stryd a gynlluniwyd ar gyfer tai parchus i bobl busnes a phroffesiynol.
Datblygiad pwysig arall oedd agor yr Ysbyty Fach ar Gomin Coedpenmaen yn 1911. Erbyn hyn roedd Stryd Taf, y brif heol, gyda'i siopau a thramiau yn llawn bwrlwm. Wedi agor Parc Ynysangharad yn 1923 cafwyd llecyn hyfryd ar gyfer adloniant a chwaraeon. Daeth oes aur y clwb rygbi - a ffurfiwyd yn 1876 - yn y 1970au.
Tra bod tŵr uchel eglwys St Catherine yn parhau'n amlwg uwchlaw'r prif strydoedd, Ymneilltuaeth wnaeth y cynnydd amlwg cynharaf. Roedd capeli'r enwadau Anghydffurfiol yn britho'r dref; safai Penuel, capel mawreddog y Methodistiaid Calfinaidd, ar ganol Stryd Taf. Rhaid cydnabod, fodd bynnag, i'r tafarndai dirifedi a'r dyrnaid da o sinemâu ddenu llawer mwy.
Fel y daeth tro ar fyd dymchwelwyd sawl capel - gan adael ond Sardis, capel yr Annibynwyr, i gynnig gwasanaeth Cymraeg. Cafodd addoldai eraill fywyd newydd fel meddygfa, amgueddfa hanesyddol a chanolfan i'r celfyddydau. Araf fu'r ddarpariaeth addysgol. Ar wahân i'r ysgolion Sul roedd ysgolion preifat o wahanol safon cyn sefydlu ysgolion Cenedlaethol, Prydeinig a Chatholig.
Maes o law agorwyd ysgolion Gramadeg i fechgyn a merched ar wahân, gan droi'n ysgolion Cyfun yn ddiweddarach. Prin bod parch i'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion cyhoeddus cynnar, ac er i'r llanw Saesnig lifo'n gryf i'r dref o'r cychwyn, llwyddwyd i ddiogelu'r etifeddiaeth ddiwylliannol am gyfnod maith. A hynny'n bennaf trwy gyfrwng gweithgarwch cymdeithasau ac eisteddfodau a gysylltir yn arbennig â chylch beirdd 'Clic y Bont' a'r defodau gorseddol ar Faen Chwŷf y Comin. Gallai Pontypridd ymhyfrydu yng ngorchest wladgarol Evan a James James, cyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau'. Ond wedi cyfnod hir daeth addysg yn ei dro yn gyfrwng i ailgyflwyno'r iaith, ac erbyn heddiw mae ysgolion Cymraeg y cylch yn mwynhau llwyddiant eithriadol.
Dioddefodd y dref yn arw pan ddirywiodd y diwydiant glo erbyn cyfnod y Rhyfel Mawr. Gyda'r diweithdra, tlodi a dioddefaint a ddilynai hawdd deall pam y cipiodd y Blaid Lafur sedd Pontypridd o afael y Rhyddfrydwyr yn is-etholiad 1922, bedair blynedd ar ôl creu'r etholaeth seneddol. Gwaethygodd y sefyllfa economaidd yn ystod dirwasgiad yr 1930au ac erbyn 1936 roedd cymaint a 53 y cant o'r boblogaeth yswiriedig yn segur.
Un ateb oedd sefydlu ffatrïoedd ar Stad Fasnachol enfawr Trefforest ychydig filltiroedd i ffwrdd. Yn ystod yr 1960au caewyd pyllau glo y Maritime a'r Albion (ble lladdwyd 287 o ddynion mewn tanchwa yn 1894), a daeth darn o hanes i ben wedi cau ffatri Brown Lenox yn 2000. Er i'r boblogaeth godi i dros 33,000 erbyn hyn, bu'n frwydr barhaol i ddenu a chadw diwydiant a gwaith. Un eithriad yw twf Prifysgol Morgannwg a leolir yn yr ardal. Gyda chreithiau dirywiad ac esgeulustod yn amlwg ddigon mae gwir angen adfywiad, ond hyd yma nid oes atebion pendant i broblemau'r dref.
Trwy'r cyfan gellir ymfalchïo yn yr unigolion ddaeth a sylw i Bontypridd yn ei gwahanol ffyrdd: yn ei plith, Dr William Price, yr ecsentrig oedd o flaen ei oes; Freddie Welsh, y paffiwr a fu'n bencampwr byd; Geraint Evans, y canwr opera, ac wrth gwrs y canwr pop byd-enwog Tom Jones.
Gan: David A. Pretty