Arddull: Cerddoriaeth RocDylanwadau: Nifer fawr o ddylanwadau gan gynnwys Led Zepellin, Mr Bungle, Pink Floyd, Primus, Faith No More, The Bronx, Johnny Mental, Mike Patton, Helmet, King Crimson, Slayer a BookAsFuel.
Pwy sydd yn y band?:
Aled Davies - Gitâr
Gethin Davies - Synth/Sacsoffon
Marc Real - Bâs
Rhys Jones - Gitâr/Llais
Rhys Lewis - Drymiau
Wedi bod gyda'i gilydd ers: 1997
Uchafbwynt hyd yn hyn: Chwarae yn TJ's Casnewydd ar noson olaf Eisteddfod 2004.
Hoff fandiau lleol eraill: Johnny Mental, Shaped by Fate, Dignity Dies First, Mozz (R.I.P), Mattoidz.
Mae Rhys Llwyd o Aberystwyth yn crynhoi ei farn am y band isod ...
Does dim byd 'cyffredin' am y band Ashokan. Sleifion' nhw i fewn trwy'r drws cefn fel petai, wrth gigio'n gyson am y nesaf peth i ddim, cynilo arian i recordio a phrynu offer, newid lliwiau eu gwalltiau bob chwe mis a mabwysiadu enwau hollol hurt fel Slug, Donut a Sgetin.
O'r cymoedd y daw Ashokan a chyfeirir atynt weithiau fel 'band ysgol Llanhari,' oherwydd dyna lle y ffurfion nhw. Dechreuon nhw gigio'n lleol a pherfformio yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Aelodau'r band fyddai'r cyntaf i gyfaddef mai methiant trychinebus fu rhai o'r gigs cynnar. Mae hyn yn eironig iawn oherwydd erbyn hyn mae'r band wedi perffeithio eu set fyw a dyna ran o'r apêl sy'n denu pobl i wrando arnyn nhw heddiw. Er bod y band wedi bod wrthi'n gigio ers blynyddoedd bellach, welais mohonynt yn perfformio'n fyw tan 2003, pan chwaraeon nhw yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn fel rhan o Ŵyl y Cnapan.
Dod â Charisma i'r Clwb
I'r rhai ohonoch chi sy' ddim yn gyfarwydd â Chlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn, byddai'n werth i mi ddisgrifio'r lle. Twlc mochyn o le, tywyll, tywyll, a'ch traed yn glynu i'r llawr a drewdod hen gwrw yn llenwi'ch ffroenau. Roedd angen dau beth y noson honno i fywiogi'r lle - côt o baent ar y wal a band da, llawn egni i ddod i'r llwyfan. O leiaf cafwyd yr ail beth - Ashokan. Oherwydd carisma Ashokan daeth y lle yn fyw er cyn lleied o bobl oedd yno.
Dyna yw dawn Ashokan - maen' nhw'n medru cyfathrebu â'r dorf yn wych. Mae gallu cyfathrebu gyda'ch cynulleidfa yn rhywbeth creiddiol, yn wir dyma galon perfformiad byw ac yn anffodus does dim digon ohono yng Nghymru ar hyn o bryd.
Donut (Rhys Jones) sy'n bennaf gyfrifol am herio a chwarae gyda'r dorf. Yn aml bydd yn neidio oddi ar y llwyfan ac yn dawnsio gyda'r gynulleidfa. Ar adegau eraill bydd yn ei gwneud hi'n glir ei fod yn anhapus fod Ashokan wedi gorfod mynd ar y llwyfan yn gyntaf, gan ddweud rhwng bob cân, 'Ond ma'n iawn, ni'n cael ein talu.' Tybiaf ei fod yn dweud rhai pethau nad yw'n ei olygu dim ond er mwyn ennyn ymateb gan y gynulleidfa. Mae ganddo ddawn arbennig ac mae hyn yn ychwanegu llawer o ddiddanwch at set fyw Ashokan.
Yn ei ffordd 'dead-pan' ei hun mae'r gitarydd bâs hefyd yn bresenoldeb gwych ar lwyfan, a bron yn ddi-ffael erbyn y drydedd neu'r bedwaredd gân bydd wedi diosg peth dillad gan chwarae ei gitâr heb dop amdano - roc a rôl!
Dros y flwyddyn yn dilyn hynny, chwaraeodd y band pedair gig yn Aberystwyth yn unig, a dwy arall wedi eu canslo ar y munud olaf. Wn i ddim sawl gig maen' nhw wedi eu chwarae dros Gymru benbaladr ers hynny ond tybiaf fod y rhestr yn un hir. Band byw yw Ashokan a band byw fydd Ashokan i lawer o bobl. Perai hyn gryn broblem i rai wrth iddyn nhw droi am y stiwdio. I fand sydd wedi gwneud enw iddyn' nhw eu hunain fel band byw gallai recordio wedi bod yn gam tuag at hunanladdiad cerddorol - fel Woolworths yn gwerthu Champagne neu Harrods yn gwerthu Spam. Mae'n amlwg fod Ashokan wedi dwys-ystyried hyn. Yn hytrach na bwrw ymlaen a rhyddhau EP pedair cân ar eu liwt eu hunain fel y gwna'r rhan fwyaf o fandiau Cymraeg y dyddiau yma, penderfynodd Ashokan rhyddhau ar y label oedd yn gweld twf mawr ar y pryd, sef Dockrad.
Diolch am ddal y gannwyll
Rhyddhaodd y band eu LP cyntaf, 'Diolch am ddal y gannwyll', yng ngwanwyn 2004. Yng ngeiriau'r band ei hun roedd y grynoddisg hon "...yn llawn anthemau i'r dimdegau." Er bod sawl cân afaelgar ar yr albwm, nid oedd o safon ddigonol pan ystyrir gymaint o ddilynwyr oedd ganddynt yn dilyn eu perfformiadau byw.
Albwm deuddeg trac ydyw, sydd wedi ei rannu'n ddwy 'act', fel feinil dwy ochr.
Un o'r pethau sy'n gwneud Ashokan yn fand mor unigryw yw eu defnydd o'r synth. Daw hyn i'r amlwg yn gyntaf ar ail drac yr albwm 'Gad i mi ddawnsio, Satan'. Dechreua'r gân gyda riff hynod gawslyd gan yr allweddell, yna bâs yn llithro fewn, yna 'ffync' am ddwy funud a hanner a sŵn byddarol am yr hanner munud olaf. Y gân nesaf ar yr albwm i dynnu fy sylw oedd 'Anghofiwch yr un hen hanes'. Dydw i ddim yn siŵr iawn beth yw pwrpas a neges y gân yma. Ai cân brotest ydyw? Neu ai cân goeglyd, tafod yn y boch ydyw? Mae'n agor gydag Alun, prif leisydd y grŵp, yn adrodd y dyfyniad 'The nationalists of Wales have created a monster which they can't control' - cân yn erbyn cenedlaetholdeb Cymreig? Ond mae geiriau'r gân o blaid yr iaith ac ati. Y pethau mae pobl yn eu gwneud i fod yn boblogaidd a phlesio'r cwsmer!
Un o fy ffefrynnau i yw, 'Y boi sydd methu ffonio nôl', y gân sydd yn dod â'r act gyntaf i ben. Dyma i chi gân 'power-pop' go iawn, un sy'n hynod o ddoniol oherwydd gall pawb uniaethu â hi am fod pawb yn adnabod y boi sydd byth yn ffonio nôl! Dechreua'r gân gyda chordiau pwerus a thoriadau rhyngddynt fel eitem y byddech yn disgwyl ei glywed ar 'Top of The Pops II' o ganol yr wythdegau, pan ddefnyddiwyd synths am y tro cyntaf. Yn ystod y pennill ceir cordiau pynclyd iawn gyda Donut yn siarad fel petai'n neges ar beiriant ateb. Yna erbyn y gytgan daw'r cordiau pwerus o gyfeiriad y synth yn ôl. Dwy funud o bop pur yw'r gân ac fe fwynheais hynny'n fawr. Cân arall a dynnodd fy sylw oedd 'Losin melys gwyrdd.' Mae gan hon gordiau sy'n beryglus o debyg i 'Hit me baby one more time' gan Britney Spears! Serch hynny mae'n hawdd gwrando arni, mae'r alaw'n gofiadwy a'r balans rhwng y lleisiau a'r offerynnau yn dda. Yn anffodus mae balans yn rhywbeth sydd ar goll mewn ambell i gân ar yr albwm hon.
Cân fabwysiedig Radio Cymru oddi ar albwm Ashokan oedd 'Seniorita'. Dyma'r orau i ddawnsio iddi ar yr albwm mae'n debyg (dydw i ddim yn ddawnsiwr!), ffwnc o'r radd flaenaf. Yn dilyn tuedd gyffredinol yr albwm, mae'r gân ganwaith yn well yn fyw.
Ar gyfer dau gyfraniad olaf yr albwm, cymer Donut rôl y prif leisydd. Mae ganddo lais wirioneddol hyfryd, ac yn y ddwy gân olaf mae'n swnio fel petai'n aelod o fand bechgyn (boy band?!) sy'n gweud ymddangosiad arbennig gyda Ashokan. Mae'r gân olaf un, 'Y Llyn,' yn f'atgoffa o ganeuon acwstig DOM, yn enwedig caneuon Siôn Williams wedi iddo fynd ar ei liwt ei hun. Mae'n debyg i arddull caneuon megis 'Y Llanw' gan DOM - tipyn gwahanol i'r caneuon ffwnc/roc sy'n llenwi gweddill yr albwm.
ASHOKAN II
Fel rwyf wedi pwysleisio'n barod, problem fawr yr LP cyntaf oedd methiant y cynhyrchydd i ail greu eu sŵn gwych byw yn y stiwdio: problem llwyddodd y band i'w ddatrys i raddau helaeth erbyn yr ail albwm. Er bod Ashokan wedi aros gyda label Dai Lloyd, Dockrad, ymadawodd y bechgyn â cynhyrchydd eu halbwm cyntaf, Curig Huws, a mynd o Gaerdydd i Abertawe. Cam yn y cyfeiriad cywir yn yr achos hyn.
Tri gair addas i ddisgrifio cerddoriaeth 'Ashokan II' fyddai Trwm, Sgrechlyd a Brawychus! Mae'r caneuon ysgafn a 'funky' oedd yn nodweddiadol o set fyw Ashokan ers amser wedi cael eu taflu drwy'r ffenest. Mae 'Ashokan II' yn dri chwarter awr o roc trwm iawn iawn iawn! Ymysg fy ffefrynnau i y mae'r caneuon 'Kill the old guard', a 'Portread o'r dyn ei hun'. Ceir ar 'Ashokan II' un neu ddau o ganeuon sydd wedi bod yn rhan o'i set byw ers cyn rhyddhau 'Diolch am ddal y gannwyll', caneuon megis 'Coes Coch' a 'Dim coes, dim brêc.
Wrth i amser fynd yn ei flaen mae'r band wedi mynd yn llai 'poppy/funky' ac wedi mynd i lawr y llwybr y gwnaeth llawer o fandiau Di Gymraeg Cymru megis y Lost Prophets. Ai 'metal' fyddai'r term gorau i ddisgrifio eu sŵn bellach?!
Fy marn bersonol i ydy fod yr LP yn un da iawn er nad ydy arddull y gerddoriaeth o'r rheidrwydd at fy nant i. Roedd gwell gennyf innau ganeuon 'Diolch am ddal y gannwyll' ond wedi dweud hynny mae 'Ashokan II' yn LP o ansawdd tipyn yn well. Mae'n drueni mewn gwirionedd na recordiwyd 'Diolch am ddal y gannwyll' yn yr un stiwdio a chyda'r un cynhyrchydd a 'Ashokan II'.