Ashokan
Mawrth 2004
Ashokan - Diolch am Ddal y Gannwyll
7 mlynedd yn ôl, yn nhref Pontypridd, daeth criw o ffrindiau at ei gilydd i ffurfio'r band fyddai'n goleuo roc Cymru - grwp fyddai un diwrnod yn dominyddu'r byd. Ateb Ponty i'r Manics a'r Stereophonics 'falle. A mis Chwefror eleni daeth y cam cyntaf yn ymgyrch fawr Ashokan i lenwi sgidiau'r Lostprophets fel talentau poethaf Ponty.
'Diolch am Ddal y Gannwyll' ydy albym cyntaf y grwp, ac mae allan yn y siopau ar label Dockrad. Mae'n cynnwys 12 trac wedi'i rhannu i 2 act (caneuon cynnar a chaneuon mwy diweddar), a bydd gwrandawyr C2 yn adnabod y glasur 'Seniorita' sydd wedi'i hail-recordio ar yr albym yma.
Yn ôl Rhys Jones o'r grwp, "Roedd e'n ryddhad mynd i'r stiwdio i glirio'r back-catalogue, achos ni 'di bod yn gweithio ar y caneuon yma ers gymaint o amser ac mae'n dod i'r pwynt lle chi just yn diflasu arnyn nhw".
Ond beth oedd barn adolygwyr yr wythnos ddaeth i fewn i stiwdios C2 at Huw Stephens? Gareth Potter, aelod o'r grwp dawns Ty Gwydr, ac Iwan England, colofnydd gyda Big Issue Cymru a Tu Chwith, roddodd Ashokan o dan y chwydd-wydr. Oedden nhw'n credu byddai Ashokan yn achub roc Cymru, neu yn ei yrru i'w fedd yn gynnar?
Gwrandewch ar adolygiad o Ashokan
Wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno gyda Gareth ac Iwan? E-bostia unrhyw sylwadau am Ashokan - Diolch am Ddal y Gannwyll at c2@bbc.co.uk.