Lloyd Collins o Dreharris
Parc y Mileniwm yn Treharris
Elin o'r de ddwyrain
Bannau Brycheiniog ar ddiwrnod clir - ffantastic, ac yn ymarfer corff da hefyd, yn enwedig ar ôl y Nadolig!!
Ann o Donyrefail
Mae llwybr byr ger yr arfordir -o gae chwaraeon Coleg Iwerydd hyd at y Coleg ei hunan - sy'n eitha rhwydd (a diddorol pa bynnag fo'r tymor).Gallwch gario yn eich blaen hyd at Bwynt Nash a'r goleudy os ydych yn fwy egniol na fi!
Steffan H. Ellis o Ystum Taf, Caerdydd
Fel arfer rwy'n cerdded ar hyd y Taf yn lleol - lan at y Tynant, neu lawr sha'r Mochyn Du.
Rwyf hefyd yn joio crwydro yn ardal Y Fenni neu Aberhonddu.
Beth o Grangetown, Caerdydd
Caeau Pontcanna/Llandaf
Sian Couch, Llanisien Caerdydd
Parc y Waun, Y Mynydd Bychan, Caerdydd.
Meleri o Gaerdydd
Bae Caerdydd a gweld y golau ar Ganolfan y Celfyddydau newydd a'r addurniadau Nadolig - hyfryd.
Marged o Gaerdydd
Cerdded ar hyd yr arfordir o gwmpas Druidston, ar ddiwrnod mwyn o wanwyn, a'r blodau yn eu gogoniant
Haf, Caerdydd
Am hufen ia a thro braf, cerwch ar hyd promenad Penarth. Wedyn cerddwch/gyrru (gan ddibynu pa mor ddiog ydych chi!) i fyny'r allt a cherdded ar hyd y llwybr pwrpasol yn cyd redeg â'r clogwyn. Golygfeydd gwych ar ddiwrnod clir!
Sian o Benybont ar Ogwr
Traeth godidog Aberogwr - hyfryd hyd yn oed pan mae'n glawio!
Dafydd o Gaerdydd
Dwi wrth fy modd yn mynd i chwilio am grancod ar y traeth yn Llanilltyd Fawr.