Aled Gibbon o Gaerdydd
Y byrgyr fan ger Halfords yn City Road. Bap brecwast gorau'r holl fyd. Sori mam!
Lloyd Collins o Dreharris
The star, Nelson. 'Bar meals' o ansawdd dda am £2. Newydd agor.
Steffan H. Ellis o Ystum Taf, Caerdydd
Fy ffefryn yw'r Priory yng Nghaerllion. Yr awyrgylch, y bwyd a'r lleoliad sy'n ychwanegu at brofiad arbennig.
G o Gaerdydd
Bae caerdydd yn gyffredinol - mae'r holl ddewis o fwyd yn ffantastig, yn enwedig Ba Orient (un o'r tai bwyta Dim Sum gorau yn fy marn i), Signor Valentinos, a Demiros (am y chocolate fountain anhygoel)
Elen o Grangetown
Ba Orient yn y bae: lle ffantastic. Bwyd hyfryd ac awyrgylch arbennig - gyda ystafelloedd ungiol i bartion o bobol eistedd mewn preifatrwydd. Gweini effeithiol hefyd - er byddai'n syniad da holi'r waiters beth sydd orau i archebu neu allech chi fod yn archebu lot gormod o fwyd!
George o Gaerdydd
Awyrgylch Eidalaidd ffantastic yn Gio's Yr Ais Caerdydd. Bwyd digon blasus hefyd - ond mae'n werth mynd i weld y gweinwyr bwrdd yn canu a chael hwyl!
Beth o Grangetown, Caerdydd
Bae Caerdydd - am y dewis anhygoel o fwydydd gwahanol sydd yno, neu Le Gallois ym Mhontcanna am damed bach o steil!
Sian Couch o Lanisien, Caerdydd
Paprika, Stryd Biwt, Bae Caerdydd. Pryd bwyd blasus iawn ac awyrgylch hyfryd.
Carys o Landeilo
Topo Gigio's yng nghanol Caerdydd, y bwyty Eidalaidd orau 'wy di bod ynddi. Lle arbennig i fynd a mam a dad pan ddown nhw i ngweld i yn y coleg! Riverside Cantonese hefyd yn Canton - nefolaidd!!
M, Pontypridd
Bunch of Grapes, Pontypridd, amrywiaeth o gwrw go iawn a bwydlen eang, edrychwch ar y 'specials' am pethau fel 'pigeon', 'shark' 'rabbit'
Ainsley Bowen o Pontcanna
Adonis Kebabs yn Roath. Kebabs gorau'r holl fyd!
SH o Riverside
A hwnnw ond fyny'r lon, dwi'n meddwl mai Riverside Cantonese ydi'r Chinese gora - nid dim ond yng Nghaerdydd, ond yng Nghymru!
Heledd o Gaerdydd
Yr Armless Dragon yn Cathays. Mae'n fwyty gwych am noson arbennig allan. Mae'r bwyd yn rhesymol o'i gymharu gyda thai bwyta eraill o'r un safon yng Nghaerdydd. Mae'r menu yn llawn o gynnyrch Cymreig a'r awyrgylch yn gartrefol.
Mark o Gaerdydd
Albany Fish Bar yn Roath, Caerdydd - gei di dim gwell pysgod a sglodion yng Nghymru i gyd!