Shwmae, John Woods dw i. Fi yw rheolwr datblygu Parc Belle Vue yng Nghasnewydd, sef prif barc addurniadol y ddinas. Swydd newydd sbon yw hon a grëir pan dderbyniodd y cyngor grocbris o arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2002 er mwyn adfer y parc.
Mae diddordeb yn y Gymraeg wedi bod gyda fi ers fy mebyd pan ddysgais ystyr enw bwthyn fy hen fodryb sef 'Llwyn yr Eos'. Nid oedd cyfle i mi ei dysgu hi pan o'n i yn yr ysgol yn Sir Fynwy yn y 60au a 70au ond serch hynny, yn hwyr yn y 90au sylweddolais fod dosbarthiadau Cymraeg i oedolion ar gael yn ardal Casnewydd.
Dechreuais i ddysgu unwaith yr wythnos yng nghanolfan Stryd Siarl yng nghanol Casnewydd yng ngwanwyn 1999. Dosbarth Nos oedd y cwrslyfr a ddefnyddiwyd gan y tiwtor bryd hynny. Cyn pen dim ro'n i'n mynychu ysgolion undydd Gwent ynghyd ag aelodau eraill o fy nosbarth. Basai hyn y drefn am y bum mlynedd nesaf; dosbarth wythnosol ochr yn ochr â'r ysgolion undydd a chyrsiau penwythnos yn Y Fenni.
Yng ngwanwyn 2001 cefais lawdriniaeth frys yn yr ysbyty ac ar ôl hynny roedd rhaid i mi aros gartre am saith wythnos. Yn ystod y cyfnod hwnnw dechreuais i wrando ar Radio Cymru bob dydd er mwyn gwella fy ngeirfa ac ymarfer gwrando, a rhaglen Nia Roberts yn y bore oedd fy hoff raglen ar y pryd. Erbyn hyn, Taro'r Post gyda Dylan Jones ym Mangor yw fy ffefryn.
Sefais arholiad TGAU yn Nhŷ Brynglas, Casnewydd ym mis Mehefin 2002 ynghyd â thri deg naw o bobl eraill ac ro'n i wrth fy modd pan gyhoeddodd y canlyniadau. Roedd e'n braf gweld gymaint o bobl cael llwyddiant.
Trefnir cwrs penwythnos yn Llambed gan Coleg Gwent unwaith y flwyddyn a chofiaf fynd am y tro cyntaf yn 2001 a chael sgwrs â'r ferch y tu ôl i'r cownter yn Siop y Smotyn Du yn y dref.
Y cam nesaf oedd dosbarth lefel A yn Y Fenni. Cwrs Meistroli oedd cwrslyfr y dosbarth, ac roedd dau ddarn o waith cartref bob wythnos yn orfodol. Yn ystod y cyfnod hwn roedd rhaid i bob dysgwr baratoi gwaith portfolio'r arholiad hefyd, yn ogystal â darllen dau lyfr.Un o'r llyfrau a ddewisais i oedd Bitsh gan Eirug Wyn, ac mae'n braf gweld fydd addasiad ar gyfer y llwyfan i'w weld yn Theatr Glan yr Afon Casnewydd yn hwyrach eleni.
Ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chasnewydd yn 2004 oedd yn gyfle da i bob dysgwr sy'n gweithio i'r Cyngor. Gwirfoddolodd nifer ohonon ni ym mhabell y cyngor trwy gydol yr wythnos, a chafodd ddau ohonon ni y fraint o wneud cyfweliad ar dâp ar gyfer rhaglen Y Post Cyntaf gyda'r ddarlledwraig Jane Wyn. Ar ben hynny roedd minnau a fy ffrind Steve yn cystadlu yng ngystadleuaeth dysgwr y flwyddyn, a chofiaf hyd heddiw'r cyfweliad pymtheg munud â'r beirniaid yn Nhŷ Tredegar. Nid oes ots nad o'n i'n llwyddiannus!
Yn ystod yr un cyfnod roedd gen i ddosbarth post lefel A yn yr gweithle am ddwy flynedd, ac roedd hyn yn beth da.o ran cael cydnabyddiaeth fod swyddogion y cyngor yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd ar ran y Cyngor. Erbyn hyn dw i'n dilyn cwrs ar-lein tuag at radd yn y pendraw â Phrifysgol Llanbedr Pont Steffan. Anelaf at wella fy iaith ysgrifenedig a llafar.
Hoffwn gau pen ar y mwdwl gan ddweud rhywbeth am gymdeithasu yn y Gymraeg yng Nghasnewydd. Gellir dweud nad oes cyfleodd di-ri i siarad Cymraeg yng Nghasnewydd, ond mae swyddogion y Cyngor ynghyd â'r mudiad Cymraeg Casnewydd yn gweithio'n galed er mwyn darparu mwy o gyfleoedd y tu allan i'r dosbarthiadau.
Ar hyn o bryd y mae gen i lawer o waith dehongli ar y gweill ynglŷn â gwaith adfer y parc, wrth i mi weithio ar y cyd â'r cyfieithwyr er mwyn gwneud yn siwr bod popeth yn y parc yn ddwyieithog!
Mawr obeithiaf fydd cyfleusterau newydd y parc yn rhoi cyfleoedd eraill i ddysgwyr Casnewydd a thu hwnt yn y dyfodol. Cynhelir sesiwn y dysgwyr cyntaf fel rhan o'r agoriad swyddogol ym mis Medi.
John Woods, Awst 2006
Darllenwch am brofiad tri o Gasnewydd yn dysgu'r Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn trwy glicio yma.