Cliciwch yma i ddarllen proffeil o Arthur 'Monkey' Gould.
Daeth Clwb Rygbi Casnewydd i fodolaeth yn 1874 ac o fewn pum mlynedd roedden nhw wedi cael pedwar tymor heb gael eu curo ac wedi chwarae'r gêm gyntaf rhwng clwb o Gymru ac o Loegr. Nhw oedd y tîm cyntaf hefyd i chwarae gêm gyda "golau trydanol" yng Nghasnewydd yn 1897, ac yn ddiweddarach bydden nhw ar y blaen o ran defnyddio llifoleuadau yn y 60au.
Dechreuodd y cyfan pan symudodd Thomas Phillips, perchennog bragdy yn Northampton, i Gasnewydd gyda'i wraig a deg o blant. Prynodd fragdy Dock Road, a dechreuodd Phillips a'i feibion fasnachu "Fine Ales & Stout". Wrth symud i Gasnewydd, daeth William, y mab henaf, a Clifford â phêl rygbi gyda nhw - yr un cyntaf yng Nghasnewydd yn ôl pob sôn.
Ffurfio'r clwb
Cynhaliwyd cyfarfod ym Medi 1874 ym Mragdy Dock Road, Casnewydd, a ffurfiwyd clwb pêl-droed. Dau o'r aelodau cyntaf oedd y ddau fab William a Clifford Phillips. Trefnwyd gêm rygbi rhwng Casnewydd a Chlwb Rygbi Morgannwg ar y pumed o Ebrill 1875.
Sefydlwyd Uneb Rygbi Cymru yn 1880, gyda chlwb Casnewydd yn un o'r sylfaenwyr, a Mr R Mullock o'r clwb yn Ysgrifennydd yr Undeb rhwng 1880 a 1892. Yn ddiweddarach, bydden nhw'n darparu tri llywydd i'r Undeb.
Cafodd Casnewydd lwyddiant ysgubol ar y cae, ac o fewn y 10 mlynedd y cynhaliwyd Cwpan Sialens De Cymru rhwng 1870 ac 1880, enillodd Casnewydd bum gwaith. O ganlyniad i'w llwyddiant, roedd sawl un o chwareuwyr y Clwb yn cael eu galw i chwarae dros Gymru, ac roedd pedwar o aelodau'r Clwb yn rhan o'r gêm cyntaf erioed rhwng Cymru a Lloegr yn Blackheath yn 1881. Roedd capten cyntaf Cymru, James Bevan, hyd yn oed wedi chwarae dros Gasnewydd (a Chaergrawnt) y tymor hwnnw.
Ers hynny, mae Casnewydd wedi darparu 20 capten i Gymru, yn ogystal â chapteiniaid i Loegr, Iwerddon, Canada, Fiji a'r Weriniaeth Tsiec. Sgoriodd chwaraewr o Gasnewydd, T Baker-Jones, y cais cyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1882.
Sêr y byd rygbi
Parhaodd Casnewydd i fod yn un o'r clybiau mwya' blaenllaw, gan gynhyrchu nifer o sêr y byd rygbi. Mae enwau cynnar llwyddiannus y clwb yn cynnwys Tom Baker-Jones, Arthur Boucher, Tom Graham Jones Hannan, Wallace Watts, ond i enwi rhai. Heb anghofio Arthur 'Monkey' Gould, sydd yn cael ei adnabod fel gwir seren cyntaf y byd rygbi.
Sgoriodd Arthur Gould 37 cais mewn ond 24 gêm yn 1892/3, a does neb wedi torri ei record eto, 113 o flynyddoedd yn ddiweddarach!
Roedd timau o hemisffer y de yn ymweld yn gyson â Rodney Parade ar ddechrau'r 20fed ganrif, a Casnewydd oedd y clwb cyntaf erioed i guro tîm De Affrica Bill Millar yn 1912. Dyma oedd cyfnod Walter Martin, JEC Partridge, Reg Plummer, Reg Skrimshire, Tom Smythe a Tommy Vile.
Mae nifer o chwareuwyr Casnewydd hefyd wedi chwarae dros dîm Llewod Prydain, a Reg Skirmshire oedd yr un cyntaf i wneud hynny yn 1903. Ers hynny, mae 31 o chwareuwyr y clwb wedi chwarae dramor dros y Llewod.
Yn 1966, llywydd presennol y clwb oedd capten y Llewod mewn dau brawf yn Awstralia a Seland Newydd.
Yn y 1940au a'r 1950au, datblygodd tîm Casnewydd yn un cryf iawn. Dyma oedd oes aur Roy Burnett, Ken Jones, Bryn Meredith a Malcom Thomas.
Ar y brig
Profodd Casnewydd eu hunan fel arloeswyr rygbi unwaith eto yn y 1950au, gan gyflwyno rygbi saith bob ochr yng Nghymru. Gyda chwareuwyr cryf iawn yn eu plith, megis Brian Jones, Bryn Meredith, Brian Price a David Watkins, daeth Casnewydd ar y brig mewn naw allan o'r 14 twrnament cyntaf.
Yn 1951, torwyd y record am nifer o gefnogwyr mewn gêm clwb, gyda 48,500 o bobl yn gwylio Caerdydd yn chwarae Casnewydd yn stadiwm Rodney Parade.
Camp lawn
Hydref 30ain 1963: Dyddiad hanesyddol i glwb Casnewydd. Nhw oedd y tîm cyntaf i guro'r Crysau Duon. Roedden nhw wedi curo Awstralia yn 1957, ac felly yn cwblhau camp lawn yn erbyn y tri ochr cryf o hemisffer y de.
Parhaodd y llwyddiant yn y 1960au gyda enwau fel Keith Jarrett, Brian Price, David Watkins a Stuart Watkins yn ddim yn rhoi o'r enwau poblogaidd yn y tîm. Ac er gwaethaf llwyddiant dros yr ugain mlynedd nesaf, roedd cyfnod tywyll ar y gorwel.
David Waters yw'r chwareuwr sydd wedi ymddangos yn y nifer mwyaf o gemau - 701 gêm rhwng 1974 a 1996.
Ond ar ôl tipyn, aeth llawer o chwareuwyr i chwilio am enwogrwydd ac arian gyda chlybiau eraill, ac yn y 1990au, roedd Casnewydd yn ei ffeindio'n anodd i ddod i dermau â chwarae'n broffesiynol.
Dim ond wrth gael cymorth ariannol hael iawn gan Tony Brown yr oedd hi'n bosib i Gasnewydd ddod yn ôl ar ei thraed. Ers hynny, mae'r cefnogwyr wedi bod yn gwylio'r clwb yn mynd o nerth i nerth unwaith eto, ac fe enillon nhw Gwpan Cymru unwaith eto yn 2001.
Er gwaetha'r ail-drefnu yn Rygbi Cymru yn 2003, gosododd Dreigiau Casnewydd y safon ac ennill Pencampwriaeth yr Uwchgynghrair yn 2003/04
Mae clwb Casnewydd wedi cael llwyddiant mawr yn ystod eu 132 blwyddyn o fodolaeth, ac yn wir, gallant edrych yn ôl gyda balchder ar yr hyn mae nhw wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd.
Cliciwch yma i ddarllen proffeil o Arthur 'Monkey' Gould.