| Ganwyd Arthur Gould yng Nghasnewydd ar Hydref 10fed 1864. Chwareuodd e safle canolwr a chefnwr i dîm rygbi Casnewydd am 16 mlynedd, rhwng 1882 ac 1898. Chwareuodd e am y tro cyntaf yn ddeunaw oed ar Dachwedd 18fed 1882 yn erbyn Weston-super-Mare yn stadiwm Rodney Parade. Ei lysenw oedd 'Monkey' o ganlyniad i angerdd tuag at ddringo coed yn ystod ei blentyndod. Roedd brawd hŷn Arthur, Bob, eisioes wedi chwarae dros Gymru 11 o weithiau rhwng 1886-67. Arthur oedd y canolwr i chwarae y nifer mwyaf o weithiau dros Gymru nes i Steve Fenwick guro hyn yn Lansdowne Road ar Mawrth 15fed 1980. Chwareuodd 27 o weithiau dros Gymru, gan wneud hynny am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr ar Ionawr y 3ydd, 1885. Roedd ei gêm olaf dros Gymru hefyd yn erbyn Lloegr ar y 9fed o Ionawr 1897, o flaen torf o 17,000 yn Rodney Parade; enillodd Cymru 11-0. Dyma oedd y 18fed gwaith iddo fod yn gapten ar Gymru, gan ddal y record nes i Ieuan Evans ei dorri yn 1994. Rhwng 1887 ac 1898 sgoriodd 136 cais a 42 gôl adlam. Treuliodd flwyddyn yn y West Indies yn 1890-91, cyn dychwelyd i Gasnewydd am dymor heb gael eu curo yn 1891-92. Fe wnaeth e ymddeol yn 1896 yn ei 30au, ond cafodd ei berswadio i ddychwelyd i chwarae yn ei gêm olaf yn erbyn Lloegr. Rhagorol
Doedd e ddim yn stopio ymarfer i ddatblygu ei ffitrwydd a sgiliau. Mae e'n cael ei ystyried gan nifer fel un o chwareuwr mwyaf rhagorol ei amser. Bu farw Arthur Gould yn 54 oed. Roedd e'n sâl yn ei waith a chafodd ei frysio adref, lle bu farw o waedlif mewnol. Adroddwyd am ei angladd fel yr un mwyaf yr oedd Cymru wedi ei weld, nes i bron 30 mlynedd yn ddiweddarach pan fu farw David Lloyd George. Mae e wedi ei gladdu ym mynwent St Woolos, Casnewydd. Yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn y ddinas, mae Gwely Goffa Arthur Gould, gyda'r geiriau "To the memory of Arthur Gould - Greatest of Rugby Football Players."
 |