Ysbrydolodd bedwar côr cymysg o gefnogwyr rhanbarthau rygbi'r wlad, Gymru i fuddugoliaeth dros Loegr yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, Mawrth 17, 2007. Perfformiodd y corau ddetholiad o ganeuon rygbi enwog yn Stadiwm y Mileniwm cyn y gêm, gyda chôr y Dreigiau yn curo'r lleill i ennill yr anrhydedd o berfformio'r anthemau cenedlaethol cyn y gic gyntaf. Roedd y corau yn cymryd rhan yn y gyfres Codi Canu ar S4C. Yr arweinydd Owain Arwel Hughes oedd â'r dasg o ddewis y côr buddugol yn dilyn misoedd o ymarferion. Meddai Owain: "Llongyfarchiadau gwresog i gôr y Dreigiau. Rwy'n gobeithio bydd y gystadleuaeth yn helpu sbarduno adfywiad yn y traddodiad canu yn ein meysydd rygbi." Oriel luniau o'r côr yn ymarfer
 |