BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bro-dorion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bro-dorion
Y BarriCyflwyniad i'r Barri
Mae Ieuan Donovan yn cyflwyno tref Y Barri. Prin yw'r cyfleusterau Chwaraeon, ac mae lle i wella yn ei farn ef.

Yn Y Barri mae cyfleusterau chwaraeon fel y Ganolfan Hamdden yn eithaf da ond mae lle i wella, yn fy marn i.

Nid oes digon o lefydd i blant ifanc Cymru dreulio'u hamser. Does dim syndod bod nifer fawr o blant yn sefyll mewn grwpiau mawr ar gornel strydoedd yn bygwth pobl ac yn torri'r gyfraith oherwydd cyflwr rhai ardaloedd cymunedol y fro.

Problemau Fandaliaeth
Un o broblemau mwya'r ardal yw fandaliaeth. Yn Y Barri, mae'r cyrtiau tenis allan o'r ffordd y tu ôl i'r clwb Bowlio ym Millwood, ac maen nhw wedi eu fandaleiddio ac nid oes unrhyw un wedi gwneud unrhyw beth amdanynt am amser hir. Pe bai rhywbeth yn cael ei wneud i wella safon y cyfleusterau, byddai cynnydd mawr yn ymroddiad y bobl leol i ddefnyddio'r cyfleusterau yma.

Yn fy marn i, does dim digon o fewnbwn gan y cyngor i wella safon y cyfleusterau yn y dref. Dylai bod pawb yn mwynhau gweithgareddau corfforol ac eisiau mynd yn ôl i'r un lle dro ar ôl tro, ond yn anffodus mae safon cyfleusterau yn effeithio arnon ni ac yn gwneud i ni deimlo'n anhapus gyda ni ein hunain ac yn rhoi lan gyda'r ymarfer corff.

Cyfleusterau Cyfagos
Yng Nghaerdydd mae yna nifer fawr o ganolfannau iechyd, sydd â phopeth ar gael yno, gan gynnwys pwll nofio, cyrtiau sgwash, cyrtiau tenis (o dan do a mas tu fas) a chae pêl droed (llawn a phump bob ochr) o safon uchel iawn. Byddai adnoddau tebyg i'r rhain yn addas iawn ar gyfer Y Barri neu ardaloedd eraill yn y fro.

Beth all ddigwydd
O'm mhrofiad personol i, yr unig broblem gyda hyn yw byddai'r gost o ymaelodi ar gyfer y cyfleusterau ardderchog yma yn ddrud iawn. Er hynny byddai adeiladu rhywbeth tebyg yn ardaloedd lleol i'r fro yn hwb mawr i'r gymdeithas.

Ieuan Donovan


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Ffilmiau
Caerdydd
Lluniau
Gemau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy