BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bro-dorion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bro-dorion
Y Bont-faen'Diffyg cyfleusterau'
Am le pert! Lle prydferth a thawel ger y Bont-faen yw Tresimwn, ac mae'r golygfeydd o'r cefn gwlad yn bleserus dros ben.

Nid oes llawer o bobl yn byw yn yr ardal, a dim ond un siop sydd yn Nhresimwn, ond mae'r preifatrwydd yn wych! Mae'r Bont-faen ei hun yn lle pert hefyd. Mae'r dref yn lle bach cyfeillgar ac eithaf hen ffasiwn mewn ffordd, gyda'r rhan fwyaf o'r adeiladau wedi bod yno ers blynyddoedd. Mae'r blodau o gwmpas yr ardal mor hardd, ac mae'r parc ac ati yn berffaith.

Beth am y plant?
Ond mae yna un broblem. Beth am y plant? Mae'r Bont-faen yn lle hollol perffaith i fyw...os ydych dros 40 oed! Nid oes unrhyw beth i blant wneud yno o gwbwl, yn fy marn i. Mae llawer o wyliau yn dod i'r dref, fel yr ŵyl fwyd ac ati, ond dim byd i blant a phobl ifanc. Does dim sinema, dim clwb ieuenctid o safon, ac mae'r parc chwarae yn un i blant ifanc iawn. Mae yna gyrtiau tenis, ond mae'n rhaid talu i'w defnyddio, ac mae'r ardal sglefrfyrddio a man chwarae pêl-droed yn fach iawn.

Does hefyd ddim siopau da i bobl ifanc. Yn fy marn i, fe all y siop chwaraeon wella yn ei safon, ac mae'r siop fach CD's a fideos wedi cau'n ddiweddar. Mae'r siop syrffio yn eithaf da, ond mae'n fach iawn, ac nid oes llawer o stoc yno.

Felly mae'r plant yn mynd i Gaerdydd i wneud eu siopa, ond nid yw'n gyfleus iawn i gyrraedd y brifddinas. Yr unig ffordd i fynd i Gaerdydd (heblaw am eu rhieni'n mynd â nhw) yw ar y bws, ac mae'r bws yn cymryd dros 45 munud i gyrraedd!

Fe fyddai'n gyfleus iawn i'r plant gael gorsaf drên yn y Bont-faen, ac mae pobl wedi ymgeisio i gael mwy o gyfleusterau i ieuenctid yr ardal, ond nid yw'r bobl bwysig yn gwrando, felly nid oes llawer o newidiadau'n mynd i ddigwydd i fywyd pobl ifanc y Bont-faen yn y dyfodol agos, sy'n drueni mawr!

Steffan Jones

  • Cyflwyniad i'r Bont-faen gan Sara Meredith

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Ffilmiau
    Caerdydd
    Lluniau
    Gemau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy