Mae rhywbeth yn y dref i bobl o bob oedran. Mae yna dai bwyta, caffi, siopau, cyfleusterau chwaraeon ac ysgolion. Mae'r Bont-faen yn le gwych i ymweld, i fyw neu i weithio yno. Mae yna boblogaeth uchel o bobl ifanc yn byw yn y Bont-faen ac yn y pentrefi cyfagos. Mae yna bethau i'w gwneud yn y Bont-faen, ond mae yna wendidau hefyd. Rwy'n credu gan fod cymaint o bobl ifanc yn byw yn yr ardal fe ddylai fod yna gyfleusterau gwell iddyn nhw. Dyma fy marn i am sut y gallwn wella'r cyfleusterau i bobl ifanc yn y dref. Chwaraeon Mae llawer o bobl ifanc yn y Bont-faen yn dalentog iawn mewn gwahanol feysydd o chwaraeon. Mae Ysgol Gyfun Y Bont-faen wedi ennill amryw o gystadlaethau e.e Sgïo a Badminton. Mae yna feysydd rygbi a chriced, cyrtiau tenis a chanolfan hamdden yn y dref. Yn fy marn i mae'r ganolfan hamdden yn hen ffasiwn ac nid yw'n apelio at bobl ifanc. Mae'n apelio fwy tuag at blant iau oherwydd mae yno gampfa lle gallwch chwarae pêl-droed a lle mae teganau chwyddedig. Nid oes pwll nofio yn y ganolfan, ac i gyrraedd y pwll nofio agosaf (un medrwch nofio lapiau ynddo) mae'n rhaid teithio i Gaerdydd sydd hanner awr i ffwrdd. Mae Canolfan Hamdden y Fro tua deg munud i ffwrdd ond mae rhaid bod yn aelod i allu defnyddio'r pwll neu mae rhaid i chi fynd gyda rhywun sy'n aelod. Nid yw pawb eisiau ymaelodi er mwyn defnyddio dim ond un o'r cyfleusterau ac mae'n wastraff arian i wneud hynny os dydych chi ddim yn cymryd mantais o'r cyfleusterau eraill maen nhw'n eu cynnig.
Mae nofio yn weithgaredd poblogaidd iawn ac yn anffodus mae pobl ifanc y Bont-faen yn colli allan. Nid ydw i'n deall pam nad oes pwll nofio oherwydd mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau hamdden bwll nofio felly pam bod y Bont-faen yn wahanol? Siopau Mae yna amrywiaeth fawr o siopau yn y Bont-faen. O siopau dillad a bwyd, i anrhegion, llyfrau a chwaraeon. Mae yna llawer o siopau dda i bobl ifanc sy'n gwerthu pob math o bethau ac mae rhai siopau gwych i brynu anrhegion. Mae yna siop ddillad da sy'n gwerthu dillad syrffio, yn ogystal â siop chwaraeon sy'n gwerthu dillad, esgidiau ac offer chwaraeon. Felly mae pob math o siopau yn y Bont-faen ond mae yna un peth sydd ddim gennym sef siop sy'n gwerthu neu rhenti DVD's. Roedd gennym siop yn gwerthu tapiau ond caeodd tua dwy flynedd yn ôl. Roedd yna siop yn gwerthu a rhenti DVD's ond eto nid ydyn nhw'n cynnig y gwasanaeth hynny rhagor. Felly nawr does gennym ni ddim unrhyw le i renti ffilmiau. Mae siop llogi DVD's i gael tua ugain munud i ffwrdd ond nid yw pobl ifanc yn gallu gyrru eto ac nid ydyn ni eisiau cael bws yno, mi fyddai hynny'n wastraff arian. Nid ydyn ni eisiau gorfod dibynnu ar ein rheini ond sut allwn ni beidio gwneud hynny os nad oes unrhyw le yn y Bont-faen? Ar ôl diwrnod caled yn yr ysgol byddai'n wych pe bawn i'n gallu cerdded lawr i'r dref i nôl ffilm ac yna mynd adre' ac ymlacio trwy ei gwylio. Ond nid ydy hynny'n bosibl ar hyn o bryd, ond gobeithio cyn bo hir mi fyddwn yn medru gwneud hynny. Sara Meredith Y Bont-faen: "diffyg cyfleusterau i bobl ifanc"
 |