BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bro-dorion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bro-dorion
Yr arfordirYr arfordir
Yr arfordir yw un o'r pethau mwyaf poblogaidd am y Fro. Yn y gorffennol Ynys y Barri oedd y man ffafriol ar gyfer teuluoedd a thwristiaid, ond erbyn hyn mae pobl yn symud oddi yno i ddarganfod rhywbeth newydd.

Mae gennym 14 milltir o arfordir a hynny'n cynnwys nifer o draethau a llwybrau â golygfeydd gwych, trefi a phentrefi hardd, a phan fo'r tywydd yn ffafriol, mannau perffaith ar gyfer syrffio, nofio, sgim-fyrddio a nifer o fathau eraill o chwaraeon.

Os ydych chi'n hoff o gerdded, marchogaeth neu seiclo, mae yna gannoedd o lwybrau ar hyd yr arfordir. Mae'n ffordd wahanol i basio'r amser ar brynhawn Sul, a gellid treulio oriau'n ymlacio gyda theulu neu ffrindiau tra'n darganfod harddwch yr ardal leol.

Profwch y dŵr
Y traeth Am rywbeth mwy cyffrous, gellid mynd i syrffio ar un o'r traethau poblogaidd. Mae Porthcawl wedi bod yn le poblogaidd i syrffio am amser, a dal yn le poblogaidd, ond ceir hefyd draethau eraill sy'n dda ar gyfer y gamp yma (heb orfod teithio am filltiroedd!) e.e. Southerndown. Mae nifer o'r llefydd yma yn cynnig gwersi a chyrsiau hefyd os nad ydych chi wedi mynd o'r blaen, neu eisiau perffeithio'ch sgiliau!
Ymhell o'r dorf ...
Neu beth am drio rhywbeth mwy anghyffredin? Gellid mynd i bysgota ar y rhan fwyaf o lefydd ar hyd yr arfordir, ac mae'n bosib mynd i ganŵio a cheufadu allan o ganolfannau ar lawer o'r traethau mawr. Mae clybiau hwylio mawr ym Mhenarth ac yn Y Barri.

Ac wrth gwrs, yn yr haf, traethau'r ardal yw rhai o'r llefydd gorau i dorheulo, i fwyta hufen iâ, sgwrsio gyda ffrindiau, ac ymlacio. Yr unig broblem yw'r glaw!

Mollie Arbuthnot


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Ffilmiau
Caerdydd
Lluniau
Gemau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy