2002 Cymru v Yr Eidal Buddugoliaeth wych i Gymru dros un o dimau pêl-droed gorau'r byd Er mai rygbi a ystyrir fel gêm genedlaethol Cymru, roedd Stadiwm y Mileniwm dan ei sang pan chwaraeodd Cymru yn erbyn yr Eidal mewn gêm bêl-droed ragbrofol ym mis Hydref 2002 ar gyfer pencampwriaeth Ewrop 2004. Gwireddwyd pob breuddwyd wrth i'r tîm cartref, dan reolaeth Mark Hughes, gael buddugoliaeth gofiadwy o ddwy gôl i un, gyda Simon Davies a Craig Bellamy yn sgorio i Gymru. Clipiau perthnasol: O Y Clwb darlledwyd yn gyntaf 20/10/2002
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i wylio clipiau BBC arlein.
|