1965 Dafydd Edwardes Bywyd dyn ei filltir sgwâr yn bell o swn y byd 'Roedd Dafydd Edwardes eisoes dros ei ddeg a thrigain oed pan alwodd Aled Vaughan yn ei ffermdy yn ucheldir Sir Aberteifi. Ymfalchïai yn ei wreiddiau a'i fagwraeth gan lynu wrth yr hen ffordd o fyw. Gwr bonheddig a chanddo syniadau pendant am ffarmio oedd Dafydd Edwardes. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf a'r wlad o'i gwmpas oedd ei fyd. Pysgota, saethu a hela oedd yn mynd â'i fryd ac 'roedd yn fridiwr Cobiau Cymraeg ac yn cadw cwn o bob math. Teithiai o fan i fan ar gefn ceffyl. 'Roedd ganddo gasgliad o hetiau at bob achlysur. Fe fyddai'n darllen am wledydd pell, er na fuodd ef dramor ei hun erioed. Clipiau perthnasol: Canfod mwy am... O Cymro, Ffarmwr a Gwr Bonheddig darlledwyd yn gyntaf 16/11/1965
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i wylio clipiau BBC arlein.
|