bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd

News image

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bill BealesSylwadau prifathro Cwmcarn

Ymateb darllenydd i sylwadau Aled Edwards yn ei ddalen wythnosol ar BBC Cymru'r Byd

Dydd Llun, Mehefin 10, 2002

Aled EdwardsSylwadau wythnosol Aled Edwards

Cyfeiriaf at yr erthygl 'Wythnos o Feddwl' a gyhoeddir ar wefan BBC Cymru'r Byd yr wythnos hon.

Cytunaf yn llwyr fod sylwadau'r prifathro wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Fel cyn ddisgybl a adawodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn y llynedd, cefais fy arswydo clywed am sylwadau o'r fath.

Er imi gael glywed amdanynt rai wythnosau cyn i'r Wales on Sunday eu cyhoeddi, nid wyf o'r farn mai gwasanaeth ysgol yw'r lle gorau i'w lleisio, yn enwedig o ystyried y sawl a oedd yn gwrando arnynt.

Fel un a fu'n bresennol yn nifer fawr o'i wasanaethau boreol, gwn yn iawn ei fod ef, fel fi, yn Gristion ond teimlaf fod Mr Beales wedi mynd yn rhy bell gyda'i sylwadau.

Mae Ysgol Uwchradd Cwmcarn, fel pob ysgol, yn llawn plant 'impressionable' iawn- nid yw'n hawdd os ydych chi'n wahanol neu mae'ch rhieni wedi ysgaru neu heb briodi.

Nid yw gwasanaeth o'r fath yn mynd i wneud dim ond ceu rhagor o broblemau a rhagfarnau.

Mae fy rhieni i wedi ysgaru, a yw Mr Beales yn gwrthwynebu hynny? A oedd hyn yn golygu y cefais fy nhrin yn wahanol? Beth am y plant eraill nad yw eu rhieni yn briod? A yw Mr Beales yn eu cefnogi hwy gymaint o gymharu â phlant y mae eu rhieni yn briod?

Beth am y plant hoyw sydd yn yr ysgol neu'r rhai sy'n ansicr ynghylch eu rhywioldeb? A yw pregeth o'r fath yn mynd i'w hannog i drafod eu problemau/pryderon?

Dim o gwbl. Ac yn fwy na hynny, bydd y bregeth honno'n cryfhau rhagfarnau rhai disgyblion. Nid yw hynny'n dderbyniol a dylai Mr Beales a'i athrawon sicrhau fod gan y disgyblion bobl addas i droi atynt.

Gan fod y llywodraethwyr, yn ôl adroddiadau yn y wasg, yn ei gefnogi i'r carn, ymddengys nad yw'r ysgol yn gefnogol i bob math o ddisgbyl.

Dylid cynnal ymchwiliad a sicrhau nad yw'r fath beth yn digwydd eto.

Wrth gwrs fod hawl gan Mr Beales gael ei farn bersonol ond fel a ddywedodd rhywun o undeb athrawon, dylid dysgu goddefgarwch mewn ysgolion.

Mae'n amlwg na ddysgwyd hyn y tro hwn.
Yn gywir,
Gordon Leach
Cwmcarn
Crosskeys
Sir Caerffili

Sylwadau Aled Edwards


Ewch
i ddarllen mwy am sylwadau'r prifathro

Ebostiwch
Wythnosau Blaenorol:

News image
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
News imageCyfoes
News image
News imageCofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


News imageStraeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


News imageCofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy