
 |  | Dweud mawr y prifathro
Aled Edwards yn trafod sylwadau dadleuol y prifathro o Gymoedd Gwent. Dydd Sul, Mehefin 9, 2002
|
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Fel math arbennig o Gristion sy'n caru ei Arglwydd, sy'n darllen ei Feibl yn rheolaidd ac sy'n ymdrechu i gynnal dysgeidiaeth glasurol yr Eglwys ynghylch priodas a rhyw, rydw i'n gallu deall beth oedd gan Bill Beales, prifathro Ysgol Uwchradd Cwm Carn, mewn golwg yr wythnos hon yn ei ddweud mawr.
Credir i Mr Beales ddatgan wrth ddisgyblion yr ysgol bod mamau di-briod, pobl sydd wedi ysgaru a phobl hoyw yn byw bywydau sy'n groes i reolau sydd "wedi eu gosod gan Dduw." Cafodd ei feirniadu'n hallt am ei sylwadau.
Gwrthod ymddiheuro Ond, er gwaethaf beirniadaeth lem Lindsey Whittle, arweinydd Cyngor Caerffili, a galwadau am ymchwiliad llawn gan undeb yr athrawon, yr NASUWT, dywedir bod Mr Beales yn gwbl ddiedifar. Mae wedi gwrthod ymddiheuro am ei sylwadau.
Tybed, a'i sant neu gythraul anoddefgar yw'r prifathro hwn?
Gellir dadlau mai'r hyn a wnaeth Mr Beales, yn y bôn, oedd cynnal dysgeidiaeth glasurol eglwysig ynghylch rhyw a phriodas.
Er gwaethaf ambell gyfaddawd cyfoes, ar y cyfan, mae eglwysi Cymru yn credu mai perthynas gydol oes rhwng gwr a gwraig yw Glân Briodas, a hyd yma, ni chaniateir gwasanaethau sy'n bendithio perthynas rhwng pobol hoyw.
Mae'n ymddangos hefyd, o ystyried peth deunydd Beiblaidd, bod Mr Beales yn llygaid ei le ynghylch yr hyn a elwir yn 'reolau Duw' ar ein cyfer.
Ers fy mhlentyndod, rydw i wedi bod yn darllen fy Meibl ac yn gwrando ar eiriau'r Llyfr Gweddi.
Penbleth ac embaras Parodd ambell beth benbleth ac embaras i mi. Mae geiriau gwasanaeth priodas Llyfr Gweddi 1664, er enghraifft, yn crybwyll enwau Abraham, Isaac a Jacob. Pam? Go brin y gellir cymeradwyo yr un o'r tri fel gw^yr da.
Cymerwyd llawforynion yn wragedd, rhoddwyd gwragedd yn rhodd i ddynion eraill ac mae Genesis, mewn modd cwbl amrwd, yn trafod treisio a lladd o gwmpas y teulu Beiblaidd hwn.
Datgelwyd gair Duw, er gwaethaf gwyngalchu'r Llyfr Gweddi, yng nghanol cnawd hanesyddol y profiad dynol.
Pryd bynnag y mae'r Cristion yn datgan barn yn gyhoeddus, fe ddylai bwyso a mesur yn llawn y cyfan y mae'r Beibl a'r Eglwys yn ei ddweud am agwedd arbennig ar fywyd.
Angen pwyso a mesur Ceir lle priodol i ddysgeidiaeth ynghylch priodas a rhyw, ond mae'n rhaid pwyso a mesur hynny yn gyfochrog â'r hyn sy'n cael ei ddweud am gariad, gras, goddefgarwch, doethineb, ac yn fwyaf penodol yng nghyswllt yr achos hwn, o'r defnydd a wneir o rym ac o awdurdod.
Fynnwn i ddim dyfarnu Mr Beales yn sant neu'n gythraul. Duw, wedi'r cwbl, sy'n barnu - nid fi.
Ond wedi dweud hyn, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod o'r farn, oherwydd yr hyn sy'n ymddangos fel diffyg doethineb rhyfeddol, bod Mr Beales wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les.
Fel y dywedodd un o arlywyddion yr Unol Daleithiau ynghylch y broses o berswadio; mae'n haws tynnu elastig na'i wthio! Mae dyddiau gwthio'r eglwysi drosodd!
Llythyr oddi wrth gyn ddisgybl yn ymateb i sylwadau Mr Beales
Ewchi ddarllen mwy am sylwadau'r prifathro
Ebostiwch |  | 
  |  |
 |  | | Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le. |  |
|
|
|