BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Archif Crefydd

Safle Newydd



BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llusern
Pethau heb newid tu ol i'r muriau?Ysgol Sul - byth ac yn dragywydd!
gan Tom Foster
Arolygu'r Ysgol Sul
Mi ydw i, dybiwn i, yn haeddu o leiaf wythfed rhan o Fedal Gee.
Ers i mi allu dweud "Duw cariad yw" hyd nes i mi adael i fynd i'r Coleg, mi oeddwn i'n aelod selog o'r Ysgol Sul.

Bob prynhawn Sul, o'r Saithdegau hwyr i ganol y Nawdegau, fe fyddai'r awr rhwng dau a thri yn cael ei threulio yn festri'r Capel.

A phrin y newidiodd pethau yno o'r diwrnod cyntaf i mi fynychu'r Ysgol Sul hyd at y diwrnod olaf.

Roedd yr Wythdegau'n gyfnod o newid sylweddol o'n hamgylch ni, ond nid yn yr Ysgol Sul.

Mi lwyddodd Maggie Thatcher i droi'r byd y tu allan i furiau'r Capel o wyneb i waered, ond prin y cyffyrddodd miri'r Wythdegau â byd syber yr Ysgol Sul.

Y gymuned ryfedd
Y peth cyntaf i'w nodi er lles yr anhyddysg ydi mai ysgol i blant yn unig oedd yn yr Ysgol Sul.

Roedd Mrs Hughes Tŷ Capel, Mrs Jones Pencarreg, Mrs Bevan Waunfawr a Miss Williams wastad yno - y pedair wedi brysio allan o oedfa'r bore i baratoi cinio - gwae'r pregethwr hwnnw fyddai'n traethu'n rhy hir, ac yn peryglu'r cyw iâr yn y popty.

Aewyddlun Cyngor yr Ysgolion Sul A rŵan, dyma nhw'n ôl, heb eu hetiau, i fod yn asgwrn cefn "Dosbarth y Chwiorydd" - criw o ferched yn eu chwedegau (ac yna yn eu saithdegau, ac yna yn eu hwythdegau) a fyddai'n cyfarfod i astudio rhyw bwt o'r Beibl y nhu blaen y Capel.

Yng nghefn y Capel, byddai Mr Hughes Tŷ Capel, Dr Jones, a chriw o'r dynion yn cyfarfod i astudio'n fwy manwl rhyw bennod astrus o'r Hen Destament - rhyw fersiwn BBC2 o Ddosbarth y Chwiorydd, efallai.

Yn y festri
Yn y cyfamser, roeddem ni'r plant yn y festri.
Rhyw emyn neu ddwy o'r "Detholiad" i ddechrau. Ac yna pawb yn mynd i'w dosbarthiadau - i dynnu lluniau neu ddarllen stori o Feibl y Plant neu ddysgu cân ar gyfer y gwasanaeth Diolchgarwch, neu ddysgu geiriau ar gyfer Pasiant y Plant.

Ac mi oedd 'na eithaf trawsdoriad o'r gymdeithas yno.
Roedd 'na giwed o'r plant parchus, oedd wedi bod yno am ddeg o'r gloch yn adrodd eu hadnodau o'r set fawr.

Ac yna roedd 'na giwed o blant y rhieni hynny na fyddent fyth yn tywyllu drws y Capel yn y bore, ond a fyddai'n dod â'u plant yn y prynhawn i'r Ysgol Sul - i "gael gwared ohonyn nhw am bnawn distaw," chwedl Nain.

Merched, yn ddieithriad, oedd yr athrawon a chan amlaf yn eu pedwardegau ac yn treulio gweddill yr wythnos yn dysgu yn un o'r ysgolion cynradd lleol.

A rŵan dyma nhw'n treulio eu prynhawn Sul, yn sgil rhyw gyfuniad cymhleth o euogrwydd a defosiwn, yn gorfod gwrando ar ddosbarth o blant bach yn canu Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben am yr ugeinfed tro.

Treigl amser
Mi lwyddodd yr Ysgol Sul i osgoi'r Wythdegau efallai, ond ni allai osgoi'r Nawdegau.

Erbyn hynny mi oedd Duw yn wir "ar drai ar orwel pell", a rŵan, pan fyddai'n dychwelyd i'r capel ar Sul y Diolchgarwch, dim ond rhyw lond llaw o wynebau ifanc sy'n holi am wneuthurwr "y moroedd mawr" a'r "pysgod chwim."

Ac, fel petai'n cadarnhau maint y dirywiad, dyma ni ddyfodol y Cyngor Ysgolion Sul bellach yn y fantol.

Diwedd y gân, mae'n debyg, yw'r geiniog - mae hi'n broses ddrud i gyflogi staff i gynhyrchu deunydd ar gyfer addysg Gristnogol yn y Gymraeg. Ond y tu ôl i'r cyfan oll mae'r dadrith fu ym myd y Capel.

Mae'r un dadrith i'w weld yn fwy cyffredinol ym myd Y Pethe ac yn ein cymunedau Cymraeg ni - anodd ydi cynnal diwylliant lleiafrifol yn wyneb grymoedd economaidd parhaus y farchnad rydd ac yn wyneb diwylliant hamdden Americanaidd byd-eang sy'n treiddio i bob twll a chornel o'n bywydau ni bellach.

Colli cyfle
Ond mae hi'n deg dweud hefyd na fu i fyd y Capel geisio gwneud ei hun yn ddeniadol yn "y farchnad gymdeithasol" newydd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

Mi oedd 'na obaith yno.
Roedd yr Ysgol Sul, wedi'r cyfan, yn eithaf arbennig fel cymuned a oedd yn cynnwys pobl o bob oed - o'r plentyn a oedd newydd ddechrau mynd i'r ysgol gynradd i'r merched oedd yn cofio diwedd y Rhyfel Mawr.

A siawns bod 'na sgôp yno i fanteisio ar y cyfoeth hwnnw, ac i addysgu pobl o bob oedran am rinweddau'r ffydd Gristnogol.

Ac er y byddai Nain yn cwyno am y rhieni fyddai'n gollwng eu plant yno er mwyn cael "pnawn distaw" hebddyn nhw, roedd 'na yn y fan honno fodd i gynnwys ym myd y Capel rai na fyddai'n fodlon eistedd drwy bregethau sych y prif oedfaon.

Ond mae'n debyg na fanteisiwyd ar y rhinweddau yma.

Awch, ond cwpwrdd gwag
Yr eironi ydi'n bod ni'n byw mewn byd lle mae angen sôn am Dduw a lle mae 'na awch eang am bethau "ysbrydol."

Tydi plant Mrs Hughes a Mrs Jones ddim wedi bod yn y Capel ers rhyw ddegawd bellach ond mae nhw'n holi - fel y gwnaeth eu rhieni nhw - am bwrpas bywyd ac yn awchu am gymorth mewn profedigaeth ac am batrwm ar fywyd cymdeithasol i sicrhau etifeddiaeth well i'w plant.

Ond dydyn nhw ddim am ddarganfod yr atebion yn nosbarthiadau'r Ysgol Sul nac mewn pregethau meithion.

Tydi wyrion Mrs Bevan ddim wedi bod yno ers iddyn nhw gael eu bedyddio ond mi fyddan nhw hefyd angen help i dyfu'n bobl ifanc doeth a charedig.

Ond dydyn nhw ddim am gael eu atynnu gan siwtiau tywyll ac oedfaon parchus.

Mae'r sialens yn un gyfoes ac yn un enfawr: rhaid ceisio gwneud dim llai nac adfywio Cristnogaeth yn yr iaith Gymraeg.

Heb droi cefn yn llwyr ar gyfoeth y gorffennol - yn wir, er mwyn ei achub - rhaid i arweinwyr ein henwadau sicrhau ateb cyfoes a thra chwyldroadol hefyd.

  • Mae Tom Foster yn gohebu ar gelfyddyd gweledol, ac yn byw bellach yn Llundain ac ym Methyr. Fe'i magwyd ar gyrion Caernarfon.


  • Llusern
    Hanes Crefydd yng Nghymru
    Ebostiwch ni: crefydd@bbc.co.uk


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy