Mae'r corff sy'n rheoli rasio ceffylau ym Mhrydain wedi dweud mai 16 o ddyddiau o rasio bydd i'w gweld ar y cwrs yn ger Llanelli. Mae hynny 12 yn llai na'r hyn fydd yn cael eu cynnal yno'r flwyddyn yma. "Rydym yn awyddus i gael cyfarfod ar frys," meddai clerc y cwrs Tim Long. "Yn amlwg, rydym yn siomedig iawn gyda'r cwrs." Mae'r penderfyniad i gwtogi'r nifer o rasys yn Ffos Las yn rhan o gynllun ehangach i dorri 150 o ddyddiau rasio yn 2011. Agorodd Ffos Las eu drysau ychydig dros flwyddyn yn ôl, gan fod y cwrs rasio ceffylau newydd i agor mewn 80 mlynedd. Mae'r cwrs yn sefyll ar hen safle glo brig rhwng pentrefi Carwe a Thrimsaran. "Nid yw 16 o ddyddiau o rasio yn ddigon i redeg busnes," ychwanegodd Long. "Mi fydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein busnes ifanc, sydd eisoes wedi bod yn llwyddiant mawr gan ddenu degau o filoedd o ymwelwyr i orllewin Cymru." Roedd ergyd i gwrs arall yng Nghymru ddydd Mercher hefyd, wrth i gwrs Gas-gwent orfod canslo noson o rasio oherwydd pryderon ynglŷn â safon y tir.
 |