BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rasio Ceffylau

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 10 Ebrill 2010

Don't Push It yn ennill y Grand National

Y ffefryn Don't Push It enillodd y Grand National yn Aintree, gyda'r joci Tony McCoy yn blasu buddugoliaeth am y tro cyntaf wedi 15 ymgais yn y ras enwog dros y clwydi.

Tony McCoy yn dathlu ar ben Don't Push It

Mae McCoy wedi ennill dros 3,000 o rasys dros yrfa hynod lwyddiannus, ond roedd y National wedi bod tu hwnt i'w afael.

Roedd Black Apalachi (14-1) yn gyfartal gyda Don't Push It (10-1) wrth neidio dros y glwyd olaf, ond gorffennodd y ffefryn yn gryf i ennill o bump hyd ceffyl.

State of Play (16-1), sy'n cael ei hyfforddi gan y Cymro Evan Williams, oedd yn drydydd, gyda Big Fella Thanks (10-1) yn bedwerydd.

Siomedig oedd y ras i'r unig geffyl o Gymru wrth i Dream Alliance, oedd yn fuddugol yn National Cymru ym mis Rhagfyr, roi'r gorau iddi wedi clwyd rhif 24.

Ond roedd y joci Cymraeg Sam Twiston-Davies, sy'n 17 mlwydd oed, yn hapus iawn ar ôl gorffen yn bumed ar ben ceffyl ei dad, Hello Bud.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy