BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 03 Tachwedd 2008
Wythnos gron
Tomos Owen yn teimlo na fyddwn yn llwyr werthfawrogi dawn Joe Calzaghe yn llwyr nes y bydd wedi ymddeol

Gyda'r holl edrych ymlaen at gemau rygbi rhyngwladol yr Hydref a'r dadlau dros ryddhau chwaraewyr i gynrychioli eu rhanbarthau, prin fu'r sylw hyd yma i ornest Joe Calzaghe yn erbyn Roy Jones Jr sy'n cael ei chynnal yn Efrog Newydd y penwythnos yma.

Nos Sadwrn bydd un o wir sêr holl hanes chwaraeon yng Nghymru, Joe Calzaghe yn camu i'r sgwâr am y tro olaf a bydd colled fawr ar ei ôl.

Fel gyda nifer o sêr eraill, mae'n bosib na fyddwn yn llwyr werthfawrogi ei ddawn yn llwyr nes y bydd wedi ymddeol ac ymhen blynyddoedd byddwn yn edrych nôl ar yrfa un o gewri byd y campau.

Joe Calzaghe

Y trueni yw mai yn Efrog Newydd fydd ei ornest olaf ac mai ar deledu lloeren y bydd yn cael ei darlledu.

Yn wir, mae gornestau Calzaghe bron i gyd wedi cael eu darlledu ar deledu lloeren, felly prin iawn yw'r sylw mae wedi ei gael o'i gymharu â bocswyr eraill.

Petai rhywun yn ystyried campau Calzaghe o'u cymharu â Frank Bruno, Audley Harrison neu Amir Khan ond eto'n holi pwy sydd â'r proffeil uchaf, mae'n deg dweud mai'r tri olaf fyddai'r enwau mwyaf cyfarwydd ymhlith canran helaeth o'r boblogaeth.

Ond nid yw Calzaghe yn un sydd wedi dymuno bod yn llygad y cyhoedd - yn ei farn ef, bocsiwr ydyw, nid personoliaeth ac iddo fe mae wedi cyflawni popeth os nad mwy nag yr oedd wedi ei ddymuno yn y gamp ac mae'n fodlon gydag hynny.

Ei arwr mawr yw Rocky a gwylio'r ffilmiau wnaeth ei ysbrydoli i ddechrau bocsio pan yn blentyn.

Nod Calzaghe nawr yw gorffen ei yrfa heb golli'r un ornest - yn union fel y gwnaeth Rocky Marciano.

Er bod ystadegau gyrfa Calzaghe eisoes yn sicrhau lle iddo ymhlith rhestr y bocswyr gorau erioed, byddai gorffen ei yrfa yn ddi-guro yn ychwanegu rhyw elfen chwedlonol iddo.

Mae ambell awgrym fod Calzaghe yn ystyried parhau â'i yrfa wedi'r ornest yn erbyn Roy Jones Jr.

Peryglus yw ceisio ymestyn gyrfa ychydig yn rhy hir ac mae'n gamp i ddewis yr amser perffaith i ymddeol.

Llawer gwell ymddeol ar y brig a chael ei gofio fel y pencampwr gyda gyrfa ddilychwyn.

Mae rhai yn penderfynu cario mlaen am nad ydynt yn gallu dychmygu bywyd heb gystadlu ar y lefel uchaf.

Dywed Joe fodd bynnag ei fod wedi cael digon a'i fod yn ystyried gyrfa yn hyrwyddo gornestau bocsio.

Er ei fod wedi ennill ei ffortiwn ym myd bocsio, mae rhywun yn cael yr argraff nad arian sy'n ei ysgogi.

Wedi'r cyfan mae'r ffaith ei fod yn parhau i fyw yn ei filltir sgwâr yn ardal Trecelyn ac yn ymarfer mewn amgylchiadau digon cyffredin yn brawf mai bocsiwr ac nid personoliaeth yw Calzaghe.

Mae hefyd bob amser yn gefnogol i'r bocswyr eraill sy'n ymarfer yn ei gampfa ac yn ymhyfrydu yn eu llwyddiant.

Bydd cenedlaethau o bobl yn y dyfodol yn sôn am gampau Joe Calzaghe yn yr un modd ag y gwnant am Jimmy Wilde, Tommy Farr a Freddie Welsh.

Rydym wedi bod yn ffodus i berthyn i gyfnod sydd wedi tystio i ddawn bocsiwr arbennig a gobeithio y bydd gornest nos Sadwrn yn ddiweddglo teilwng i yrfa gwir bencampwr o Gymro.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy