BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 16 Medi 2008
Wythnos gron
Cynhyrchydd Adran Chwaraeon BBC Cymru Tomos Owen sy'n edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd draw, draw yn Tseina

David Davies

Gellir ffurfio'r dyddiad 08-08-08 drwy ddefnyddio cylchoedd yn unig.

Yr wythnos hon dyma fydd diwrnod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd - sydd a'i logo, yn addas iawn, yn cynnwys pum cylch.

Bydd y seremoni ar 08-08-08 yn dechrau yn Beijing am wyth eiliad wedi wyth o'r gloch.

Am ryw reswm bydd y gystadleuaeth bêl-droed yn dechrau deuddydd cyn y seremoni agoriadol ond am yr wythnosau nesaf bydd sylw'r byd ar Beijing a'r digwyddiad mwyaf ym myd y campau.

Canolbwynt y sylw fydd Stadiwm athletau newydd y "Nyth Aderyn" sy'n drawiadol iawn yn bensaernïol.

Ond mae'n siŵr y bydd llawn gymaint o sylw ar wleidyddiaeth gyda hawliau dynol Tseina a chyflwr yr amgylchedd yn Beijing o dan y chwyddwydr.

Fyddai'r un Gemau Olympaidd yn gyflawn chwaith heb ambell stori am athletwyr yn cam-ddefnyddio cyffuriau.

Y gobaith yw mai'r campau fydd yn denu'r prif sylw gyda chystadleuwyr gorau'r byd yn brwydro am y medalau.

Yn eu plith bydd 12 o Gymry, gyda'r seiclwyr Nicole Cooke a Geraint Thomas, y nofiwr David Davies a'r rhwyfwyr Tom James a Tom Lucy ymhlith y rhai fydd yn obeithiol o ennill medal.

Oherwydd y gwahaniaeth amser bydd mwyafrif y cystadlu yn ystod oriau'r nos ond bydd gwasanaethau'r BBC yn darparu uchafbwyntiau drwy gydol y dydd ar deledu, radio ac ar-lein.

Rhodri Llywelyn fydd yn gohebu ar ran Radio Cymru a Newyddion S4C yn Beijing.

Mae'n siŵr y bydd sawl un fodd bynnag yn cael eu temtio i godi'n gynnar neu i dreulio noson hwyr o flaen y teledu i wylio rhyw ras neu gêm arbennig dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r Gemau Olympaidd yn cael eu cofio am ddigwyddiadau neu unigolion arbennig.

Kelly Holmes

Kelly Holmes oedd seren Prydain ar y trac yn y gemau diwethaf yn Athen tra Cathy Freeman oedd arwres fawr Awstralia yn gemau Sydney.

Y tebygrwydd yw mai Usain Bolt fydd un o sêr y gemau yn Beijing, y gŵr sydd yn dal record 100m y byd ac a fydd hefyd yn cystadlu yn y 200m.

Bydd gobeithion y Tsieniaid ar ysgwyddau Liu Xiang, a enillodd y fedal aur yn Athen yn y ras 110m dros y clwydi.

Yn y pwll nofio mae rhai yn darogan y gallai'r Americanwr Michael Phelps dorri record Mark Spitz o saith medal aur mewn un Gemau Olympaidd.

Bydd rhai o enwau mwyaf cyfarwydd y byd chwaraeon yn cystadlu mewn campau fel tenis a phêl-droed tra bydd sawl enw anghyfarwydd hefyd yn siwr o hawlio'r penawdau mewn cystadlaethau amrywiol dros yr wythnosau nesaf.

Un fydd yn cael cryn sylw mae'n siwr fydd y deifiwr 14 oed o Loegr, Tom Daley.

Mae'n siwr mai magu profiad fydd ei brif nod ef yn Beijing ar gyfer Gemau'r dyfodol.

Wrth son am y dyfodol, os oeddech chi'n meddwl fod llawer o sylw yn y cyfryngau i'r Gemau Olympaidd dros yr wythnosau nesaf, dychmygwch beth fydd y sefyllfa ymhen pedair blynedd pan fydd Llundain yn gartref i'r Gemau!


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy