BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 19 Mehefin 2008
Davies yn barod i serennu yn Beijing

I David Davies mae'r aros bron ar ben. Ymhen deufis fe fydd y nofiwr ifanc o'r Barri yn gwybod os oedd wyth mlynedd o lafur ac o aberth wedi dwyn ffrwyth.

David Davies

Ond gyda Tsiena yn paratoi i groesawu'r byd i Beijing ymhen saith wythnos, mae'r nofiwr ifanc o'r Barri yn dawel hyderus o greu argraff yng Ngemau Olympaidd 2008.

Cyfweliad gyda David Davies

"Dw i wedi bod yn ymarfer yn galed ac mae pob dim wedi mynd yn dda iawn a bellach dw i'n edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur," meddai mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.

Go brin fod y gair 'ymarfer' yn cyfleu gwir natur yr her gorfforol feunyddiol y mae Davies yn dewis wynebu.

Er mwyn cystadlu gyda'r goreuon yn ei gamp mae'r gŵr 23 mlwydd oed yn nofio o leiaf 80,000m, neu 50 milltir yr wythnos.

Fe ŵyr Davies fod ymroddiad o'r fath yn angenrheidiol os ydi o am wella ar y fedal efydd enillodd yn y ras 1500m yng Ngemau Olympaidd Athen yn 2004.

"Fe fydd hi'n anodd iawn hyd yn oed i gyrraedd y ffeinal, ond dwi'n hoffi'r her o gystadlu yn y rasys mawr," meddai Davies.

Yn ogystal ar ras1500m mae Davies hefyd wedi penderfynnu cystadlu yn y ras dwr agored dros 10k sydd yn gamp newydd yn y Gemau eleni.

Mae'r ras yn cael ei gynnal mewn llyn yn yr awyr agored yn hytrach na phwll traddodiadol ac ar ôl gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd yn Seville yn gynharach eleni, mae Davies yn edrych ymlaen at yr her newydd.

"Dwi'n ystyried ar y ras 10k fel bonws i ddweud y gwir, dyw e ddim yn effeithio ar fy ngwaith paratoi ar gyfer y 1500 felly mae modd gwneud y ddau."

Yn anffodus efallai, er mwyn gwireddu ei uchelgais yn Beijing, mae Davies wedi penderfynu symud o Gaerdydd i Loughbrough er mwyn paratoi ar gyfer y gemau a hynny o dan adain ei hyfforddwr newydd Kevin Renshaw.

"Roedd hi'n anodd gadael Caerdydd ond mae Loughbrough yn cynnig mwy o stimulus.

"Mae mwy o gefnogaeth o ran gwyddoniaeth chwaraeon er mwyn gwella techneg yno, a hefyd dwi'n ymarfer gyda nofwyr eraill sy'n gobeithio cystadlu yn Beijing.

"Cyn codi yn y bore er mwyn ymarfer mae'n rhaid i chi fwynhau nofio, ac yn sicr dwi'n mwynhau fy hun ar hyn o bryd."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy