BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cwpan y Byd 2006

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Newidiwyd diwethaf: 09 Mehefin 2006
Gwlad Pwyl 0-2 Ecuador

Cafwyd goliau gan Carlos Tenorio ac Augustin Delgado wrth i Ecuador sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Gwlad Pwyl Yn Glesenkirchen yng Ngrŵp A.

> adroddiad y gêm

PRIF DDIGWYDDIADAU

Sgôr Terfynol Gwlad Pwyl 0-2 Ecuador

90 mun: Tarodd y Pwyliaid y postyn yn y funud olaf ag ergyd gan Pawel Borzak.

85 mun: Trodd Ireneusz Jelen yn gelfydd yn y cwrt cosbi ond gwelodd ei ergyd yn dod yn ôl oddi ar y trawst.

80 mun: Gôl - Gwlad Pwyl 0-2 Ecuador
Llwyddodd Ivan Kaviedes i guro'r trap camsefyll cyn lledu'r bêl i Augustin Delgado i rwydo'r ail gôl i Ecuador.

77mun Cafwyd taran o ergyd gan Miroslav Szymkowiak darodd un o'r gwyr camera tu ôl i'r gôl yn hytrach na chefn y rhwyd.

73 mun: Roedd angen cyffyrddiad pwysig arall gan Neicer Reasco i droi croesiad o'r dde heibio am dafliad.

61 mun: Llwyddodd Augustin Delgado i droi'n gelfydd yng nghwrt cosbi Gwlad Pwyl ac er iddo ddisgyn i'r llawr wedi tacl gan Mariusz Jop, nid oedd y dyfarnwr am roi cic o'r smotyn.

53 mun: Roedd angen tacl bwysig gan Geovanny Espinoza i rwystro Radoslaw Sobolewski rhag ergydio i Wlad Pwyl wedi iddo dderbyn y bêl yng nghwrt cosbi Ecuador.

52 mun: Llwyddodd Jacek Krzynowek i rwydo i'r Pwyliaid ond roedd ymosodwr Bayer Leverkusen yn camsefyll.

47 mun: Unwaith eto mae'r bêl newydd yn profi ei fod yn teithio ymhellach na'r arfer wrth i Artur Boruc orfod delio â chic rhydd Antonio Valencia o'r ystlys.

Hanner Amser Gwlad Pwyl 0-1 Ecuador

43 mun: Methodd Cristian Mora â chasglu'r bêl o gic gornel ond peniodd Maciej Zurawski y bêl heibio'r postyn.

41 mun: Bu rhaid i Artur Boruc fod ar ei orau unwaith eto wrth i Antonio Valencia daro ergyd o bell.

37 mun: Ceisiodd Edison Mendez â chic rhydd o 30 llath ond llwyddodd Artur Boruc i arbed yn gyfforddus.

28 mun: Mae'r gôl wedi bod yn ergyd i hyder Gwlad Pwyl ac mae Ecuador yn creu hafoc yn amddiffyn y Pwyliaid ar y funud.

23 mun: Gôl - Gwlad Pwyl 0-1 Ecuador
Llwyddodd y gwyr o Dde America i fynd ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wrth i Carlos Tenorio benio pas Agustin Delgado i gefn y rhwyd.

13 mun: Cafodd Jacek Krzynowek ei lorio ar ochr y cwrt cosbi gan Edison Mendez, ond tarodd chwaraewr canol cae Bayer Leverkusen y gic rhydd ymhell dros y trawst.

10 mun: Llwyddodd golwr Gwlad Pwyl, Artur Boruc, i ddelio ag ergyd o bell gan Segundo Castillo i fawr rhyddhad ei amddiffyn.

Mae cryn sôn wedi bod am y ffordd mae'r bêl newydd yn symud yn dilyn gôl Torsten Frings yn erbyn Costa Rica yn gynharach yn y dydd.

5 mun: Mae golwr Ecuador, Christian Mora, wedi peintio baner ei wlad ar y naill foch a'r llall!

3 mun: Dawnsiodd Miroslav Szymkowiak o amgylch llu o chwaraewyr Ecuador, ond wedi cael ei lorio, ni chafodd gic rhydd.

TIMAU

Gwlad Pwyl:Boruc, Jop, Baszczynski, Bak, Zewlakow, Sobolewski, Krzynowek, Szymkowiak, Smolarek, Radomski, Zurawski.

Eilyddion: Bosacki, Brozek, Dudka, Fabianski, Gancarczyk, Giza, Jelen, Kosowski, Kuszczak, Lewandowski, Mila, Rasiak.

Ecuador: Mora, De la Cruz, Hurtado, Espinoza, Reasco, Mendez, Castillo, Valencia, Edwin Tenorio, Delgado, Carlos Tenorio.

Eilyddion: Ambrossi, Ayovi, Benitez, Borja, Guagua, Kaviedes, Lanza, Lara, Perlaza, Saritama, Urrutia, Villafuerte.

Dyfarnwr: Kamikawa Toru (Siapan)


chwaraeon
Hanes y Gwpan
Y Timau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy