Telerau ac Amodau Defnyddio Clonc Cwpan y Byd
Mae Clonc Cwpan y Byd yn ddigwyddiad amlieithog sy'n defnyddio cyfieithu peiriant awtomatig, a gyflenwir gan Google. Ry'n ni am weld i ba raddau mae cyfieithu peiriant yn gallu dileu rhwystrau iaith.
Drwy gymryd rhan yn yr arbrawf hwn rydych chi'n derbyn y telerau ac amodau canlynol:
- Mae'n bosibl na fydd cyfieithiadau a gynhyrchir gan beiriant yn cyfleu eich sylwadau'n gwbl gywir;
- Gall y BBC ddileu sylwadau unrhyw ddefnyddiwr y mae o'r farn sy'n amhriodol neu a all achosi tramgwydd.
Bydd sylwadau'n cael eu cymedroli'n adweithiol. Ein nod yw cynnwys cymaint o sylwadau â phosibl, felly gofynnir i chi gadw'ch sylwadau'n fyr.
Ceisiwch osgoi defnyddio talfyriadau neu ddywediadau llafar; gan na fyddant yn cyfieithu'n dda. Bydd hyn yn ein helpu i gadw'r trafodaethau'n hygyrch, diogel ac yn dderbyniol i bawb.
Byddwn yn defnyddio rheolau mewnol y BBC fel meini prawf ar gyfer cyhoeddi neu wrthod sylwadau. Os gwelwch bostiad sy'n amhriodol yn eich barn chi, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r ddolen "cwyno am y sylw hwn".
Dywedwch wrthym ba un o'r rheolau mewnol rydych chi'n credu sydd wedi'i dorri a bydd ein cymedrolwyr yn penderfynu a ddylid dileu'r sylw. Mae telerau ac amodau preifatrwydd cyffredinol y BBC hefyd yn weithredol.
