
Pop-roc perffaith, sgleiniog yw'r gerddoriaeth ond o dan honno mae themâu tywyll, doniol a difrifol yn cuddio yng ngherddoriaeth Mattoidz.
Wedi rhyddhau'r EP Tan Y Tro Nesa ar label Rasp yn 2003 a gydag un drymiwr yn gadael ac un newydd yn ymuno, llwyddodd Mattoidz i weddnewid eu hunain o fand roc-tafarn digon dymunol i bwerdy o egni byw, a hynny'n ddiolch i flwyddyn gyfan o gigio, perffeithio'u crefft cyfansfoddi ac adeiladau fan base ffyddlon ar draws Cymru.
Erbyn i'r albwm gynta Edrych Yn Well O Bell fwrw'r siopau yn 2005 roedd cerddoriaeth gitâr trwm yn dechrau gwneud marc go-fawr ar y siartiau Prydeinig, gan leoli Mattoidz yng nghanol tirwedd cerddorol oedd yn golygu bod eu sŵn yn ffres ac yn yn gyfoes.
Gyda grwpiau fel Ashokan a Mattoidz yn arwain y ffordd, roedd cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith oedd yn ffans o roc trwm o'r diwedd yn gallu gwrando ar rywbeth yn eu hiaith nhw eu hunain a'i mwynhau yn fyw hefyd.
Z-List oedd y sengl ddaeth wedyn yn 2007, a'r flwyddyn ganlynol cafodd ail albwm y grwp ei rhyddhau, Llygaid Cau a Dilyn Trefn.
Ar hyd y blynyddoedd mae'r band wedi gorfod brwydo i gyrraedd ble maen nhw, trwy waith caled a gigio cyson, ac yn aml yn erbyn sylw cyfryngol anffafriol a di-sail.
Petai Mattoidz yn dod o'r Gogledd bydden nhw'n enfawr. Ond dy'n nhw ddim, maen nhw'n dod o Sir Benfro. A diolch byth am hynny.
Ian Cottrell
Newyddion

Taith Skep-taciwlar!
16 Ionawr, 2008
Ddechrau Chwefror, bydd Skep, Mattoidz, Ashokan a DJ Ian Cottrell yn mynd ar daith...
Sesiynau

Mattoidz
20 Rhagfyr 2007
Sesiwn C2 newydd gan Hefin, Gareth, Steve a Rhys... neu i chi a ni - Mattoidz!
Mattoidz
Chwefror 19, 2003
Erthyglau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
BBC Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

