
Ddechrau Chwefror, bydd Skep, Mattoidz, Ashokan a DJ Ian Cottrell yn mynd ar daith fer o amgylch Cymru, i hyrwyddo deunydd newydd gan y tri band.
Mae hi bellach yn tynnu at bedair mlynedd ers i ail albym Skep - Ctrl-S - gael ei ryddhau, ond bydd eu trydydd albym, Skep - Sgep, allan ar label Recordiau Dockrad fis Chwefror. Mae ambell i drac oddi ar yr albym eisioes wedi cael eu chwarae ar C2, a byddwn yn siwr o gadarnhau dyddiad rhyddhau pan gewn ni wybod.
Band arall sydd wedi bod yn dawel ers sbel ond sy'n barod i ffrwydro nol ar y sîn yw Ashokan! Y daith hon fydd gigs cyntaf y band mewn dros flwyddyn, a byddant yn chwarae caneuon o'u albym newydd fydd allan yn hwyrach yn y flwyddyn.
Rydych eisioes wedi cael rhagflas o gynnyrch newydd Mattoidz, gyda'r Sesiwn C2 wych wnaethon nhw recordio ddiwedd 2007. Y newyddion da yw y bydd traciau'r sesiwn a holl ganeuon diweddaraf y band yn cael eu rhyddhau ar albym newydd y band, fydd yn cael ei ryddhau ar eu label eu hunain - My Imaginary Label - o fewn y misioedd nesaf.
Ac fel pe na bai hynny'n ddigon, fe fydd DJ Ian Cottrell hefyd yn rhan o'r daith, yn diddannu pawb ar bob noson o'r daith gyda'i chwaeth gerddorol unigryw.
Dyma ddyddiadau taith Skep, Mattoidz, ac Ashokan::
- Nos Wener, Chwefror 1
Ty Tawe, Abertawe (£3, 8pm).
- Nos Sadwrn, Chwefror 2
Ty Newydd, Sarn Mellteyrn, Penllyn (£3, 8pm).
- Nos Iau, Chwefror 7
Nos Da (Gwesty'r Riverbank), Caerdydd (£4, 9pm).
- Nos Wener, Chwefror 8
Yr Angel, Aberystwyth (£3, 8pm).
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
C2 ar BBC iPlayer
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
