
Nofelydd, darlithwraig a chantores-gyfansoddwraig dalentog, gyda dawn dweud stori
Yn codi o ludw'r band 'girl power-pop'Johnny Panic / Y Panics ar ddechrau'r degawd, dechreuodd Fflur Dafydd ar ei thaith fel artist unigol drwy ryddhau'r albwm Coch Am Weddill Fy Oes yn 2004.
Yn glanio ar y sîn ar yr un pryd â Gwyneth Glyn a Lleuwen Steffan, roedd gan Fflur ei steil ei hun oedd yn adleisio cantorion-gyfansoddwyr Americanaidd y 70au, wedi eu sianelu drwy ysbryd y grŵp Jess a Huw Chiswell yn llywio'r cyfan.
Dawn dweud stori yn gryno mewn cân sydd gan Fflur, a gyda'i band Y Barf - wedi'u henwi ar ôl y blew bythol-bresennol ar wyneb ei phrif gitarydd, Rhys James - gall ymddangos ar ffurf baled tawel neu jam ffwnclyd.
Yn ymwybodol o'i hetifeddiaeth cerddorol Cymraeg, mae'r briodas eiriol ac offerynnol yn ei chaneuon yn un lwyddiannus iawn, gyda'r melys, y chwerw, y dathlu a'r hiraethu i gyd yn nodweddion sydd i'w clywed ar draws ei gwaith.
Yn dilyn rhyddhau'r ail albwm Un Ffordd Mas yn 2007 - a welodd ei chrefft yn aeddfedu eto - mae Byd Bach yn ein disgwyl ar ddiwedd 2009; trydedd albwm sydd yn cynnwys caneuon wedi'u seilio ar y llefydd hynny yng Nghymru sydd wedi gadael eu marc ar y gantores o Gaerfyrddin.
A hithau'n cyfuno gyrfa fel nofelydd, darlithwraig a chantores-gyfansoddwraig yn lwyddiannus dros ben, ni allwn ddianc rhag hon.
Ian Cottrell
Newyddion
Cân newydd y Barf!
Gorffennaf 20 2007
Gŵyl y Cenhedloedd Bychain
Ebrill 10, 2006
Pasg yn Iwerddon
Mawrth 24 2006
Sesiynau

Fflur Dafydd a'r Barf
19 Hydref 2007
Fflur Dafydd a'r Barf
Mehefin 1, 2005
Adolygiadau

Adolygiadau CD Fflur Dafydd a'r barf
16 Tachwedd 2009
Beth yw barn yr adolygwyr am albym Fflur Dafydd a'r Barf - Byd Bach?
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
BBC Wales Music

More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

