Cân newydd y Barf!

Fflur Dafydd a'r Barf gyda Bethan Elfyn

Nos Fercher, Gorffennaf 18, am 10pm daeth Fflur Dafydd a'r Barf i Ystafell Werdd C2 i greu rhaglen arbennig yng nghwmni Bethan Elfyn.

Bob wythnos mae grŵp gwahanol yn dod i'r stiwdio gyda llond sach o syniadau gwreiddiol ar gyfer y rhaglen, ac un o syniadau Fflur a'r Barf oedd i ofyn i wrandawyr Radio Cymru i gynnig syniadau am bwnc galla'i Fflur gyfansoddi cân amdano!

Felly, i glywed y trac gafodd ei recordio yn arbennig ar gyfer y rhaglen, clicia isod:

Gwrando ar fersiwn acwstig Llathen o'r un Brethyn

Gallwch hefyd glywed trac arall acwstig newydd sbon gan Fflur a'r Barf, edrych ar luniau o'r band yn yr Ystafell Werdd, gwrando ar eu dyddiadur yn Eisteddfod Llangollen a Tŷ Newydd Sarn, a gweld fideos o ymweliadau The Heights, Sibrydion a Frizbee i'r Ystafell Werdd drwy ymweld a'r tudalennau isod:

the heightsRhaglen 4
Fflur Dafydd a'r Barf
18 Gorffennaf 2007

the heightsRhaglen 3
The Heights
11 Gorffennaf 2007

sibrydionRhaglen 2
Sibrydion
04 Gorffennaf 2007

frizbeeRhaglen 1
Frizbee
27 Mehefin 2007

Nos Fercher nesaf, Gorffennaf 25, Ashokan fydd yn cadw cwmni i Bethan Elfyn, ac yna yn y rhaglen olaf yn y gyfres bresennol o Ystafell Werdd C2, ar Awst 1af, am 10pm bydd cyfle i glywed Cowbois Rhos Botwnnog.

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.