Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed. Yn ogystal, cynigir gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn Arddangosfa Celf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Casnewydd a'r Cylch 2004.
Ysgoloriaeth: £1,500 (Cronfa Frondeg)
Detholwyr:
Frances Carlile, Jennifer Harris, Dewi Glyn Jones, Ian Rowlands, Michael Tooby
Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Richard Bevan
Sylwadau'r detholwyr
Cyflwynwyd gwaith diddorol ac amrywiol gan artistiaid ifanc eleni, yn amrywio o beintio a cherflunwaith traddodiadol i weithiau gosod a ffotograffiaeth, a rhywfaint o waith dylunio. Roedd y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ar gyfer yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn artistiaid cain, a'u gwaith yn aml yn anodd ei ddiffinio na'i gategoreiddio. Archwiliodd y detholwyr bortffolios gan restr fer o bump – un dylunydd ffasiwn a phedwar artist cain.
Roedd gwahaniaeth amlwg yn y modd y cyflwynwyd y portffolios. Cyflwynodd y rhan fwyaf amrediad eang o ddeunydd paratoadol a detholiad o weithiau gorffenedig, gyda gwahanol raddau o eglurder; ond dim ond un darn o waith gorffenedig a gafwyd gan un ymgeisydd. Roedd wedi'i anelu'n uniongyrchol at y detholwyr, ac yn ddyfais fframio arbennig yn cynnwys cyfres o gliwiau. Er inni fwynhau'r gwaith, ein teimlad oedd nad oedd y darlun yn dweud y stori i gyd, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi'i orffen. Roedd y sleidiau gwreiddiol yn fwy llawn posibiliadau.
Roedd diffyg ffocws gan bortffolios eraill ac roeddent yn cynnwys gormod o enghreifftiau tebyg i'w gilydd o waith o lyfrau braslunio. Mewn rhai achosion nid oedd dim dogfennaeth iawn na gorffenedig o gwbl o waith wedi'i gwblhau. Nid oedd bob amser yn glir beth fyddai cynlluniau pellach yr artist pe bai'n ennill yr ysgoloriaeth.
Dylai ymgeiswyr ddychmygu eu hunain yn agor portffolio o waith nas gwelwyd mohono o'r blaen. Roeddem yn chwilio am ysbryd ymholgar, anturiol ac ymchwilgar, gydag ymdeimlad clir o gyfeiriad ar gyfer datblygu i'r dyfodol, a hynny wedi'i gyflwyno mewn ffordd gydlynol.
Dyna'n union sut bortffolio a gyflwynwyd gan enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc eleni, Richard Bevan. Mae ei waith yn dangos ymroddiad egnïol i'r daith fewnol arbennig honno a wneir gan bob artist. Mae'n dangos ffocws clir ac yn dangos gallu i weithio drwy syniadau mewn modd cydlynol a strwythuredig heb gyrraedd canlyniadau rhagdybiedig. Cawsom fwynhad arbennig o'r cydbwysedd rhwng y ffurfiol a'r cysyniadol; roedd lliw ac arwyneb y gwaith mor ddiddorol â'r cynnwys. Mae'r dyfodol yn agored led y pen.