BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

BBC Homepage
News imageCymru'r Byd
News image
News imageEisteddfod Celf a Chrefft 2003
News imageDetholwyr
News imageEnillwyr
News imageArddangosfa
News imageDewis y BoblNews imageComisiwn Madog
News imageCynllun preswyl Maldwyn
News imageGwobr Ifor Davies
News imageIorwerth Peate
News imageAckroyd Harvey
News imageDerek Williams

News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

News image

News image

News image

Arddangoswr: Virginia Graham

Mae pawb yn berchen ar bethau y maen nhw'n teimlo'n gryf amdanyn nhw ac yn rhoi gwerth mawr arnyn nhw. Yn aml ni fydd y pethau hyn yn rhai gwerthfawr yn ariannol ond y maen nhw'n bethau cyffredin pob dydd sy'n dwyn i gof atgofion a phrofiadau. Oherwydd hyn maen nhw'n cael eu codi i statws uwch na'r un a fwriadwyd iddynt yn wreiddiol.


Bydd fy sylw yn cael ei dynnu gan y casglwr sy'n celcio pethau yn fwriadol. Byddaf yn gwneud tebotiau a chasgliadau llestri te am mai hwy yw'r crochenwaith casgladwy eithaf. Maen nhw hefyd yn wrthrychau cyffredin y gall y sawl sy'n edrych arnyn nhw eu hadnabod yn syth. Rwy'n rhyfeddu at y modd y mae'r pethau hyn, a fwriadwyd yn wreiddiol i'w defnyddio, yn cael eu casglu a'u harddangos mewn cwpwrdd gwydr yn aml, byth i'w defnyddio rhag ofn bradychu eu statws newydd.

Byddaf yn defnyddio cyfuniad o gastio slip a thechnegau llunio â llaw i greu ffurfiau sy'n cynnwys nifer o elfennau yn ail greu gwrthrychau yn aml ac yn eu gosod oddi allan i'w cyd-destun. Byddaf yn aml yn defnyddio tap, dolen mwg neu glawr tebot er enghraifft. Mae eu harwynebau yn cyfeirio at nwyddau defnyddiol o faes hanes crochenwaith diwydiannol, gan gynnwys mochaware, cornishware a phorslen glas a gwyn.

Trosluniau blodeuog a gloywder metelaidd yw'r cyffyrddiadau olaf yn y broses o greu darnau eclectig sy'n werthfawr ac yn gasgladwy ac eto'n gyffredin ac yn gyfarwydd.


Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura ClarkLaura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie PhillipsLucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas HarePenseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies SuttonPensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari ThomasMari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim DaviesTim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard BevanRichard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy