|  |
 |  | 
![]()

![]()

![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Pamela Rawnsley
Bum yn cynllunio ac yn gwneud gemwaith ers tro byd, mewn deunyddiau amrywiol, ond gan ddychwelyd at fy ffefryn bob amser - arian.
 Yn fy holl waith rwy'n cyfuno ffurfiau cadarn clir ag arwynebau o ansawdd cynnil, lliw. Bydd syniadau'n datblygu o sawl ffynhonnell - rhai gweledol yn bennaf - ac yn cronni mewn llyfrau brasluniau. Bu'r tirwedd yn ei holl agweddau yn bwysig erioed tro ar fryn, cipolwg ar olau ar graig, dwr byrlymus, mannau eang yn cynnwys manylion bychan. Dim ond y man cychwyn yw'r rhain. Mae llawer o fy ngemwaith yn wag y tu mewn yn gadarn ac yn ysgafn i'w wisgo, pob darn wedi ei wneud yn unigol. Bydd rhai darnau yn datblygu'n lestri bydd tlws crog yn troi'n flwch, bydd modrwy yn cynnwys elfennau sy'n gwneud twrw neu'n seinio. Mae'r syniadau hyn yn parhau yn y gwaith rwy'n ei gynhyrchu ar raddfa fwy, sydd weithiau yn cynnwys gemwaith. Gall modrwy'n ddatblygu'n fodd i agor blwch, neu bydd clawr yn dod yn rhydd i ffurfio broetsh.
|
|   |  |  | Laura Clark Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
|  |
 |  |  | Lucie Phillips Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
|  |
  |  |  | Penseiri Nicholas Hare Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd. Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
|  |
  |  |  | Pensaernïaeth Davies Sutton Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg. Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
|  |
  |  |  | Mari Thomas Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio Cyfres Haenau Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
|  |
  |  |  | Tim Davies Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
|  |
  |  |  | Richard Bevan Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.
|  |
|
|