|  |
 |  | 
![]()

![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Karla Williams
Fel defnyddwyr rydym yn byw mewn cyfnod lle rydym ni'n cael ein boddi gan ddelweddau o berffeithrwydd honedig. Rydym yn cael ein gyrru gan y ffasiynau diet a'r rhaglenni ymarfer diweddaraf, a'n hannog i ddefnyddio'r colur proffesiynol diweddaraf sy'n addo gwastatau, llyfnu, tynhau, a dileu arwyddion heneiddio. Does dim syndod, felly, fod anhwylderau bwyta ar gynnydd ymhlith dynion, merched a phlant.
 Mae Karla Williams yn defnyddio cyfuniad o dechnegau cyfoes a thraddodiadol i gyfeirio at gamau poenus a radical fel llawdriniaeth gosmetig a cholli pwysau eithafol. Mae'n edrych ar effeithiau personol, rhai dirdynnol yn aml, y ffenomen ddiwylliannol ehangach ar yr unigolyn. Mae'r gyfres Purge yn mynd i'r afael â'r posibilrwydd fod plant yn cael eu dylanwadu, fel y mae oedolion, gan ddiwylliant poblogaidd a delweddau'r cyfryngau. Mae eiconau fel Barbie a Ken ymhlith y nifer sydd ar gael ar raddfa eang a sy'n dylanwadu ar blant ifanc, yn arbennig felly ym meysydd ffasiwn, harddwch a gwedd. Does ond rhaid edrych ar y stryd fawr leol i weld merched mor ieuanc â saith oed yn gwisgo'r ffasiwn ddiweddaraf a cholur. Mae'n ffaith anffodus fod plant mor ieuanc â saith oed yn ymwybodol o'u pwysau a'u bod yn ymwybodol eisoes o'r dulliau sydd ar gael i'w reoli.
|
|   |  |  | Laura Clark Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
|  |
 |  |  | Lucie Phillips Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
|  |
  |  |  | Penseiri Nicholas Hare Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd. Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
|  |
  |  |  | Pensaernïaeth Davies Sutton Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg. Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
|  |
  |  |  | Mari Thomas Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio Cyfres Haenau Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
|  |
  |  |  | Tim Davies Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
|  |
  |  |  | Richard Bevan Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.
|  |
|
|