BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

BBC Homepage
News imageCymru'r Byd
News image
News imageEisteddfod Celf a Chrefft 2003
News imageDetholwyr
News imageEnillwyr
News imageArddangosfa
News imageDewis y BoblNews imageComisiwn Madog
News imageCynllun preswyl Maldwyn
News imageGwobr Ifor Davies
News imageIorwerth Peate
News imageAckroyd Harvey
News imageDerek Williams

News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

News image

Arddangoswr: Huw Jones

Byddaf yn tynnu lluniau yn y man a'r lle ar ddarnau hir o bapur, wedi'u torri oddi ar rolyn. Mae'n helpu fi i weld y tirlun heb ffiniau. Wrth edrych ar olygfa byddwn yn sganio ar draws, ffocysu i mewn ar fanylion a theimlo llawer o ddylanwadau ar yr un pryd. Rwyf eisiau i fy lluniau fod yn debyg i hynny delweddau y medrwch chi gipio arnynt ond hefyd y gallwch gael eich tynnu i mewn iddyn nhw a threulio amser yn myfyrio drostyn nhw.


Mae'r paentiadau yn cael eu hadeiladu haen ar ben haen. Rwy'n ceisio rhoi'r ymdeimlad o symud a siapau yn dod allan o gysgodion gan fod y lluniau yn ymwneud ag amser a'r cof yn ogystal â'r elfennau gweledol. Rwy'n defnyddio paent olew am ei fod yn gyfrwng mor rymus sydd eto yn ddigon sensitif i ddal y gwahaniaethau o olau a chysgod. Mae'n gallu adlewyrchu fy nheimladau a chyfnewidiadau'r tirlun. Rwy'n ceisio cadw peth o ynni'r brasluniau yn y paentiadau. Drwy ddilyn sawl proses mae effeithiau annisgwyl a damweiniol yn digwydd. Gall y rhain fod yn hynod o effeithiol.


Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura ClarkLaura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie PhillipsLucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas HarePenseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies SuttonPensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari ThomasMari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim DaviesTim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard BevanRichard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy