|  |
 |  | 
![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Donna Barry
Ailadrodd, adeiladwaith, ffurf, haniaeth a phatrwm dyma'r elfennau holl bwysig yn fy ngwaith.
 Rwyf wedi datblygu techneg newydd, sy'n golygu toddi metelau gwerthfawr. Mae hyn yn fodd i mi lunio fy nalen fy hun allan o lwythi o elfennau o ddalennau bach. Mae'r gorgyffwrdd sy'n digwydd rhwng y siapiau hirgrwn a'r cylchoedd yn arwain at ailadrodd patrwm ar yr wyneb ac y mae modd cynhyrchu gwahanol ansawdd ac argraffion. Mae addurniadau gwddf a breichledau yn cynnwys llawer o unedau unigol wedi eu hasio, gan greu nodweddion golau a chyffyrddol. Mae ffurfiau mwy solet i froetshis, ond mae elfennau symudol yn y darnau hyn yn aml, sy'n anadlu bywyd iddynt pan fônt yn cael eu gwisgo. Mae llawer o'r darnau yn debyg i flodau a gwrthrychau wedi eu darganfod ym myd natur. Mae patrymau o adeiladwaith ailadroddus, fel cennau pysgodyn, teiliau to a phatrymau ar flancedi yn ysbrydoli. Mae gweithio â'r deunyddiau a'r dechneg, llunio a chwarae â phatrymau, yn fy arwain i wahanol gyfeiriadau ac y mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd.
|
|   |  |  | Laura Clark Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
|  |
 |  |  | Lucie Phillips Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
|  |
  |  |  | Penseiri Nicholas Hare Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd. Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
|  |
  |  |  | Pensaernïaeth Davies Sutton Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg. Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
|  |
  |  |  | Mari Thomas Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio Cyfres Haenau Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
|  |
  |  |  | Tim Davies Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
|  |
  |  |  | Richard Bevan Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.
|  |
|
|