BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

BBC Homepage
News imageCymru'r Byd
News image
News imageEisteddfod Celf a Chrefft 2003
News imageDetholwyr
News imageEnillwyr
News imageArddangosfa
News imageDewis y BoblNews imageComisiwn Madog
News imageCynllun preswyl Maldwyn
News imageGwobr Ifor Davies
News imageIorwerth Peate
News imageAckroyd Harvey
News imageDerek Williams

News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

News image

News image

News image

News image

News image

News image

Arddangoswr: Pensaernïaeth Davies Sutton (2)

Ty Cefn Mabli, Caerffili
Mae hanes Cefn Mabli yn ymestyn dros gyfnod o 900 mlynedd a mwy. Yn ystod ei oes aur fel plasty yn 1891 fe'i disgrifiwyd gan y Cardiff Times fel one of the finest and most historic country seats in Wales'.


Roedd y ty yn enwog am ei erddi cwympol Jacobeaidd, yr hen barc ceirw a'i goed derw. Yn 1994 bu tân dinistriol yn y ty ac fe'i gadawyd mewn cyflwr mor ddifrifol nes yr ystyriwyd nad oedd yn bosibl ei adfer. Roedd bron iawn y cyfan o'r nodweddion addurniadol pwysig, yn hanesyddol a phensaernïol, wedi mynd i'w colli.

Y briff oedd adfer ac addasu'r adfail yn fflatiau moethus. Penderfynwyd canolbwyntio ar gadw'r waliau allanol tra'n diogelu'r prif gynllun strwythurol oddi mewn i'r adeilad. O'r herwydd cynhaliwyd bron bob un o'r waliau a oedd yn dal pwysau a'u pwytho ynghyd â chlymfarau. Ail-luniwyd y ffenestri, a oedd yn dyddio o nifer o gyfnodau gwahanol, i adlewyrchu hanes amrywiol y ty yn gywir.

Adfeddiannwyd pedwar paentiad panel mewn ocsiynau a'u dychwelyd i'r ty. Cynlluniwyd ystafell banelog newydd yn arbennig i gynnwys y paentiadau. Gan na fu'n bosibl dod o hyd i orchuddion to teils carreg, defnyddiwyd llechen dosbarth trwm er mwyn cael ansawdd tebyg i garreg. Mesurwyd y bargodion cilfwaog sy'n mynd o gwmpas yr adain Sioraidd yn ofalus o'r darnau a oedd yn weddill, a'u hailadeiladu gan ddefnyddio dellt derw traddodiadol a rendrad calch.

Mae'r elfennau newydd yn cynnwys dwy bont i roi mynediad i'r fflatiau ar y llawr cyntaf: lifft â grisiau canolog o'i gwmpas a chowrt garej.


cwlwm
Canolfan Ymwelwyr Castell Caerffili (Pensaernïaeth Davies Sutton (1)

Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg
(Pensaernïaeth Davies Sutton (3)


Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura ClarkLaura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie PhillipsLucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas HarePenseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies SuttonPensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari ThomasMari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim DaviesTim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard BevanRichard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy