BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

BBC Homepage
News imageCymru'r Byd
News image
News imageEisteddfod Celf a Chrefft 2003
News imageDetholwyr
News imageEnillwyr
News imageArddangosfa
News imageDewis y BoblNews imageComisiwn Madog
News imageCynllun preswyl Maldwyn
News imageGwobr Ifor Davies
News imageIorwerth Peate
News imageAckroyd Harvey
News imageDerek Williams

News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

News image

Arddangoswr: Clive Hicks-Jenkins

Bum yn teithio mewn car o Gasnewydd i'm man gwaith yn Tretower Court bob dydd am rai blynyddoedd, a gydol y cyfnod hwnnw byddwn yn arafu fel malwen bob tro y byddwn yn mynd trwy bentref Llanofer, wedi fy hudo gan ddarlun tywyll, llawn dirgelwch o Fari Lwyd uwchben drws y Swyddfa Bost.


Dim ond ar yr arwydd hwnnw wedi ei baentio y gwelais i Fari Lwyd erioed, ond roedd fy nhad wedi gweld un, a thua diwedd ei oes adroddodd hanes ei ofn a ddeilliai o gyfnod plentyndod pan welodd y peth arswydus mewn cynfas a ruthrodd tuag ato allan o'r tywyllwch. Roedd yr atgof wedi parhau, gan ymosod arno ar adegau pan oedd yn teimlo'n fregus. Gydol ei oes byddai ei deulu yn dychryn oherwydd grym yr hunllefau a fyddai'n chwalu ei hunanfeddiant arferol, ond yng ngolau dydd roedd yn ddyn a fyddai'n cerdded yn yr haul, yn chwerthin llawer, ac yn fodlon. Roedd yn 84 cyn iddo gyfaddef beth a fu'n ei boeni. Edrychodd ar y peth yn fy narluniau, ei alw wrth ei enw a'i drechu.

Tra'n orweddog, yn marw yn yr ysbyty, yn cael ei boeni gan Duw a wyr pa angenfilod anweledig, byddai'n gweiddi allan ac yn brwydro â'i gynfasau gwely. Bu'n gas ganddo gael ei gyfyngu gan gynfas erioed. Rhy debyg o lawer i'r Fari, a rhy debyg o lawer i amdo.

Wedi iddo farw daeth y Fari Lwyd yn elfen ganolog yn fy ngwaith, ond diosgodd dennyn ei gwreiddiau arferion gwerin yn fuan, gan drawsnewid i fod yn rhywbeth llai corfforol. Yng ngeiriau Picasso datblygodd fel a ganlyn, 'A form of magic designed as a mediator between this strange hostile world and us: a way of seizing the power by giving form to our terrors, as well as our desires.'


Artistiaid
A - H | I - O | P - Y

Rhestr yr enillwyr

Dewis y Bobl

Detholwyr

ysgoloriaeth pensaerniaeth
Laura ClarkLaura Clark
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
Lucie PhillipsLucie Phillips
Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth
(Rhennir y wobr)

Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
y fedal aur - pensaerniaeth
Penseiri Nicholas HarePenseiri Nicholas Hare
Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd.
Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
Plac Pensaerniaeth
Pensaernïaeth Davies SuttonPensaernïaeth Davies Sutton
Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg.
Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
Crefft a Dylunio
Mari ThomasMari Thomas
Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio
Cyfres Haenau

Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
Celfyddyd Gain
Tim DaviesTim Davies
Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain
Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
artist ifanc
Richard BevanRichard Bevan
Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc
Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy