|  |
 |  | 
![]()

![]()

![]()

![]()

![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Carwyn Evans
Mae Polisi Cynllunio Cyngor Ceredigion wedi'i feirniadu'n hallt gan aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymuned. Dadl y gwrthwynebwyr yw nad yw amcangyfrif y cyngor o'r boblogaeth yn y dyfodol yn cyfiawnhau adeiladu'r 6,500 o dai arfaethedig yn y sir, a allai arwain at ddileu'r iaith Gymraeg yn yr ardal drwy fewnlifiad o bobl ddi-Gymraeg. Fodd bynnag, noda'r Cyngor eu bod yn ymagweddu'n realistig tuag at dai gan weithio er lles y trigolion.
 Darn gosod yw Unlliw sydd yn cynnwys 6,500 o flychau adar wedi'u gwneud o gardfwrdd. Y bwriad tu ôl i'r gwaith yw cyfleu nifer y tai sydd i'w codi dros ypymtheg mlynedd nesaf gan gyfrannu at y ddadl bresennol am effeithiau posibl y polisi cynllunio a chynlluniau tebyg. Daw'r teitl o'r ddihareb "Adar o'r Unlliw, Ehedant i'r Unlle." Gosodir blychau adar er mwyn denu adar i nythu ynddynt. Gan fod tai yng Ngheredigion yn aml yn rhy ddrud i'r gymuned leol, yr wyf am gwestiynu pwy fydd yn byw yn y tai newydd hyn unwaith iddynt fod yn eu lle. Ai pobl leol fyddan nhw neu ddim? Mae ardaloedd amaethyddol yng Nghymru yn parhau i wynebu newidiadau yn y diwydiant. Gyda mwyafrif y gymuned amaethyddol yn heneiddio, mae'r argyfwng amaethyddol a'r mewnlifiad yn fygythiadau amlwg i strwythur economaidd a diwylliant y Gymru wledig. Gallai mewnlifiad pellach achosi newidiadau mwy fyth na fydd modd eu gwrthdroi. Fel rhywun ifanc sydd wedi gadael Ceredigion oherwydd anawsterau cael hyd i waith yn yr ardal, hoffwn ddychwelyd adref, ond a fydd hynny ar draul newidiadau pendant? Drwy raddfa a dwysedd y gwaith, fy ngobaith yw y bydd y gwyliwr yn gallu rhagweld nifer y tai sydd i'w codi yn y sir, gan ffurfio eu barn eu hunain ynglyn a'r pwnc llosg hwn.
|
|   |  |  | Laura Clark Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Rwyf newydd gwblhau fy addysg bensaernïol yn Ysgol Bensaernïaeth Mackintosh yn Glasgow. Pensaernïaeth a chelf fu prif ddiddordebau fy mywyd erioed.
|  |
 |  |  | Lucie Phillips Enillydd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth (Rhennir y wobr) Mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb mewn pensaernïaeth pan oeddwn i'n bedair ar ddeg oed.
|  |
  |  |  | Penseiri Nicholas Hare Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - Gwobr Goffa Alwyn Lloyd am Rhif 1. Sgwâr Callaghan, Caerdydd. Y prosiect hwn yw'r datblygiad sylweddol cyntaf ar y safle ac y mae'n ganolfan i swyddfeydd yn bennaf ond mae posibiliadau i'w ddefnyddio i ddibenion adwerthu.
|  |
  |  |  | Pensaernïaeth Davies Sutton Enillydd y Plac Teilyngdod mewn Pensaernïaeth am Ty Teilo, Llandw, Bro Morgannwg. Roedd y cleient, Esgobaeth Llandaf, yn awyddus i Davies Sutton Architecture ddatblygu coetsiws fel man i encilio ynddo.
|  |
  |  |  | Mari Thomas Enillydd Y Fedal Aur Crefft a Dylunio Cyfres Haenau Yr allwedd i'r casgliad hwn yw'r syniad o gyflwyno ffurfiau a siapiau clir a syml.
|  |
  |  |  | Tim Davies Enillydd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain Er nad wyf yn dymuno bod yn gyfarwyddol am fy ngwaith, oherwydd bod pob un sy'n edrych arno yn dod â'u dealltwriaeth a'u dehongliad eu hunain i bob darn, bydd y nodiadau hyn, gobeithio, yn egluro fy nghymhellion a'm cyfeiriadau wrth ei gyflawni.
|  |
  |  |  | Richard Bevan Enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc Mae fy ngwaith yn ymwneud â'm bywyd ac olion corfforol bywydau fy mherthnasau a'm ffrindiau.
|  |
|
|