Y Goron Testun. Dilyniant o gerddi 'Serch' neu gerddi 'Siom' Enillydd: Meirion Evans Beirniaid: Derec Llwyd Morgan, Bryan Martin Davies, W. R. P. George Cerddi eraill: Cerddi gwrthodedig T. James Jones a Jon Dressel; Eifion Powell Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: Er bod y beirniaid yn amlwg yn meddwl mai cerddi Ianws oedd y gorau, gwobrwywyd Meirion Evans. Unwaith yn rhagor 'roedd rheolau'r gystadleuaeth wedi eu torri. 'Roedd y ffugenw yn arwyddocaol: Ianws oedd Ionawr, duw dau-wyneb y Rhufeiniaid, ond Mawrth y ddwy Gymru ac Awst y ddau fardd oedd arwyddocâd y ffugenw. Cywaith rhwng dau fardd oedd y cerddi buddugol, ac ni chaniateir cywaith yn y gystadleuaeth. Nid chwilio am Goron yr oedd T. James Jones, ond am glust i'w siom yn ei gydwladwyr wedi canlyniad y refferendwm ar ddatganoli. Cerddi Ianws oedd protest fawr olaf y saithdegau. Yr oedd dilyniant T. James Jones yn gywaith oherwydd ei fod ef a Jon Dressel wedi bod yn gweithio ar y cerddi ochr yn ochr â'i gilydd. T. James Jones yn Gymraeg, Jon Dressel yn Saesneg. Y Fedal Ryddiaith Stori fer hir Enillydd: R. Gerallt Jones (Cafflogion) Tlws y Ddrama Y ddrama orau yn y cystadlaethau canlynol: comedi neu ffârs ar gyfer cwmniau drama gwledig, drama hir, drama fer. Enillydd: J. Selwyn Lloyd (cystadleuaeth y ddrama hir) Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |