Ymateb a sylwadau Alan Llwyd 'Roedd awdl anfuddugol James Nicholas unwaith eto yn gyfoes ac yn trafod problemau'i chyfnod. 'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd. Ond mae yna elfen broffwydol ddychrynllyd yn yr awdl anfuddugol hon hefyd. 'Roedd pris i'w dalu. 'Roedd y diwydiant glo a fu unwaith yn talu am y bywyd bras yn awr yn dechrau dioddef dirwasgiad eto. Oddi ar i'r pyllau gau 'roedd y tipiau'n gornwydydd ar hyd y cymoedd, ac ymhen misoedd 'roedd cysgod un ohonynt, uwch pentref Aberfan, wedi ei daflu ar draws yr holl fyd. 'Roedd awdl Dic Jones yn gyfoes o ran ei deunydd hefyd. Y Goron Testun. Drama fydryddol: agored Enillydd: Tom Parry-Jones ('Y Gwybed') Beirniaid: Cynan, Bobi Jones, Thomas Parry
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd Drama fydryddol rymus iawn ei dychan mewn mannau.
Y Fedal Ryddiaith Testun: Cyfrol o ysgrifau Enillydd: Eigra Lewis Roberts Tlws y Ddrama Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasol Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd,Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |