 |  | Lleoliad yr Eisteddfod Rhosllannerchrugog Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol - Y Rwsiaid yn darganfod Auschwitz.
- Cyrch ar Dresden gan 1200 o awyrennau; lladd 130,000 o bobl.
- Mussolini yn cael ei ddal a'i saethu, a'i grogi gerfydd ei draed.
- Milwyr Rwsia yn cyrraedd Berlin.
- Milwyr yn darganfod erchylltra'r gwersylloedd mewn lleoedd fel Belsen a Buchenwald.
- Hitler ac Eva Braun yn cyflawni hunanladdiad, a'r Almaen yn ildio.
- Rwsia yn meddiannu hanner Yr Almaen, y lleng haearn yn disgyn.
- Bom atomig yn disgyn ar Hiroshima ar Awst 6, a agasaki ar Awst 9.
- Siapan yn ildio.
- Cost y Rhyfel i Gymru: lladd 20,000 yn y Lluoedd Arfog a'r Llynges Fasnach; 1000 wedi eu lladd yn y bomio; tua 350,000 o 'faciwis wedi dod i Gymru, a'r Swyddfa Ryfel yn meddianu 200,000 erw, sef 10%, o dirwedd Cymru.
- Ffurfio'r Cenhedloedd Unedig.
- Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol a Clement Attlee yn Brif Weinidog.
- Nye Bevan yn Weinidog Iechyd a James Griffiths yn Weinidog Insiwrans Cenedlaethol. Will Jones, A.S. Gorllewin Y Rhondda, oedd yr olaf i gael ei
ethol yn ddiwrthwynebiad. - Ym mis Ionawr Lloyd George yn cael ei ddyrchafu'n Iarll ond yn marw yn 82 oed ym mis Mawrth.
- Dywedodd Churchill mai ef oedd 'y Cymro mwyaf ers y Brenhinoedd Tuduraidd'. Sefydlodd y Wladwriaeth Les, arweiniodd Brydain drwy'r Rhyfel Mawr, a dinistriodd y Blaid Ryddfrydol.
- Glowyr De Cymru yn cytuno i ffurfio'r NUM a dod â dyddiau'r 'Fed' i ben.
- Ethol Gwynfor Evans yn Llywydd Plaid Cymru.
Archdderwydd CrwysY Gadair Testun. Awdl: 'Yr Oes Aur' Enillydd: Tom Parry-Jones Beirniaid: T. H. Parry-Williams. D. J. Davies, Dewi Morgan Cerddi eraill: Mathonwy Hughes oedd yr ail. |
| |  

|
Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 'Roedd yr awdl yn sôn am oes aur celfyddyd a gwarineb, ond ar ddiwedd y Rhyfel dechreuad yr Oes Oer ac nid yr Oes Aur a welwyd yn Eisteddfod Rhosllannerchrugog. Yr oedd yn yr awdl lawer gormod o fenthyciadau o waith beirdd eraill, er bod ambell gwpled neu ddarn syfrdanol ynddi. Y Goron Testun. Pryddest: 'Bara' neu 'Coed Celyddon' Enillydd: Neb yn deilwng Beirniaid: T. Eirug Davies, David Jones, Iorwerth C. Peate Cerddi eraill: Dilys Cadwaladr (Prifardd y Goron, 1953), G. J. Roberts (Prifardd y Goron, 1947), G. Gerallt Davies Y Fedal Ryddiaith Ni ddyfarnwyd neb yn deilwng ym 1945 am waith gorau 1942 ´ 1944. Tlws y Ddrama Drama Hir Enillydd: Neb yn deilwng Tlws y Cerddor Sefydlwyd ym 1990 Llyfrau perthnasolDau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000. |
|