BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Machynlleth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Machynlleth
CerddwyrCerdded Llychlynaidd
Mae Annette Strauch sy'n wreiddiol o'r Almaen ond bellach yn byw ym Machynlleth wedi dysgu Cymraeg. Un o'i diddordebau ydy Cerdded Llychlynaidd, ac mae'n credu y dylai mwy o bobl yr ardal ac yng Nghymru ymgymryd â'r gamp.

Dyma gamp newydd o Sgandinafia! Rydych chi'n cwrdd â nhw mwy aml nawr, y "walkers" deinameg gyda ffyn yng nghefn gwlad neu yn y ddinas, efallai ym Mharc Pontcanna, ar draeth o Aberdyfi i Dywyn, ar y prom yn Aberystwyth, ym Marmouth ar y ffordd i Ddolgellau a.y.b. Dewch i drio!

Dechreuodd fel hyfforddiant haf ar gyfer mabolgampwyr gaeaf, er enghraifft sgïo croes gwlad. Yn Y Ffindir, mae 16% o'r boblogaeth yn gwneud hwn. Mae e'n boblogaidd yn yr Almaen hefyd a rownd y byd i gyd ac mae'n dechrau yng Nghymru ar y foment. Mae'n dda i bob un ohonon ni: pobl heini, neu bobl sy ddim yn ffit iawn, i'r hen ac i'r ifanc, ar gyfer pob tywydd, pob tymor.

Ond mae llawer mwy i'r gamp na cherdded gyda ffyn. Mae llawer o fanteision meddygol gyda Nordic Walking: i'r galon, y cyhyrau, y dull hudol yn erbyn poenau cefn (ar ôl disgiau wedi llithro.) Mae'n dda yn seicolegol hefyd, agor eich ysgyfaint i gael rhagor o ocsigen (os mae asthma gyda chi) a rydych chi'n defnyddio llawer o galorïau. Felly mae Nordic Walking yn gallu helpu chi i golli pwysau! Mae'n rheoli pwysedd gwaed ac ar yr un pryd rydych chi'n cael llawer o hwyl!

Gobeithio bydd 'na gefnogaeth yng Nghymru gan y Cynulliad yng Nghaerdydd. Byddaf yn siarad gyda fy meddyg ym Machynlleth sy'n dod o'r Iseldiroedd. Mae diddordeb yma ond mae pobl angen help weithiau.

Tips ar y dechneg
Techneg sylfaenol: sefyll yn syth, symud ysgwyddau gyda'r cluniau, defnyddio ffyn gyda breichiau hir, gwaith traed bywiog. Mae'n hyfforddiant ar gyfer y corff i gyd - a rydych chi'n ei wneud yn yr awyr agored, sy'n beth iach hefyd.

Pan rydych chi'n hyfforddi mae angen yfed llawer o ddŵr a gwneud yn siŵr nad ydych chi'n colli fitaminau. Yr offer pwysicaf ydy ffyn cywir wrth gwrs. Maen nhw'n fyrrach na ffyn sgïo. Dydyn nhw ddim yn drwm oherwydd meant wedi eu gwneud o garbon. Hyd ffyn: 0.66 x taldra.

Mae 'Nordic Walking' rhwng 40% a 50% yn fwy effeithiol na cherdded heb ffyn. Mae hi'n bwysig i brynu esgidiau da. Peidiwch â defnyddio sgidiau cerdded!

Maen hawdd iawn i ddysgu a rydych chi'n gallu ei wneud o flaen eich tŷ eich hunan, gartre. Mae'n dda i wneud hwn mewn grŵp - gyda ffrindiau neu bobl drws nesaf, mae'n gymdeithasol iawn. Rydych chi'n gallu dysgu'r gamp heb wario llawer o arian gyda rhywun sydd â chymwysterau ac yn hoffi helpu a dysgu pobl!

Am fwy o wybodaeth mae pobl yn gallu cysylltu â fi: annettestrauch@freenetname.co.uk Mae hi'n hen amser i edrych ar y gamp o Nordic Walking o ddifrif.

Annette Strauch

  • Hanes bywyd Annette Strauch

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Cyfrannwch

    Thomas Meier, Berlin - canol
    Mae hyn yn fwy na hobi ond yng Nghymru does dim llawer o syniad gyda rhai pobl yn anffodus am "sports". Mae hi'n dda i gadw yn heini, pobl ifanc, hefyd yr hen bobl. Mae iechyd yn bwysig iawn, iawn! 'Rwy'n hoffi Cerdded Llychlynaidd yn fawr. Hwyl o Berlin!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lluniau
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Trefi


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy