BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Machynlleth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Machynlleth
Annette Strauch"Fy mhrofiadau yng Nghymru"
Annette Strauch, sy'n wreiddiol o'r Almaen ond bellach yn byw ym Machynlleth.

Ymwelais i â Chymru yn gyntaf pan oeddwn i'n ugain oed achos ymchwil yn yr Amgueddfa Werin. Es i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda S. Minwel Tibbott yn Aberystwyth, arbennigwraig mewn bwyd yng Nghymru. Cwrddais i â Robin Gwyndaf yno a dysgais am chwedlau Cymreig. Astudiais i Ethnoleg Ewropeaidd, hefyd Saesneg ym Mhrifysgol Georg-August Göttingen. Dysgais i Gymraeg fy hun a dechreuais i ddarllen nofelau a straeon o Gymru.

Symudais i i Gaerdydd yn 2000, wedyn i Aberystwyth yn 2003. Mi weithiais gyda phrosiect Rhwydwaith Archifau Cymru am dair blynedd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Nawr rwy'n byw ym Machynlleth, hen ysgol Llys Maldwyn ers 2006. Mae pobl yn gallu aros gyda ni.

Ar y foment‚ rwy'n trefnu arddangosfeydd lluniau ar gyfer fy nghariad Mark Robert Davey. Rwy'n nabod pobl fel Britta Schulze - Thulin sy'n siarad Cymraeg. Mae Susanne Hofbauer yn ffrind i fi sy wedi dysgu Cymraeg, mae hi'n byw ym Munich ond cwrddon ni yng Nghastell Nedd.

Tywydd Cymru
Dwi ddim yn licio'r glaw yng Nghymru trwy'r amser o gwbl. Mae popeth yn edrych yn drist iawn i fi. Fy hoff lefydd yw traeth Aberdyfi, Sir Benfro, Canton /Caerdydd. Hefyd rwy'n hoffi'r mynyddoedd. Un o fy niddordebau ydy Nordic walking. Mae bywyd yn costio llawer yng Nghymru. Mae hiraeth am y cyfandir ac eira nawr. Rwy'n colli siopau neis a llefydd spa. Yn ddiweddar, es i'r Eidal, Sbaen, Ffrainc, Hwngari, Latvia.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

Annette Strauch a'i hobi diddorol


Cyfrannwch

Christine - Koeln
Mae fy mhrofiadau yng Nghymru yn debyg. Dysgais i Gymraeg. Does dim llawer o ddiddordeb gyda llawer o bobl am fywyd tu allan o Gymru. Does dim digon o amser hamdden yno. Mae bywyd yn ddrud iawn - popeth. Mae ansawdd bywyd yn wahanol. Es i Fachynlleth rhai o weithiau. Rwy'n hoffi'r Oriel Spectrwm, dim MoMA, Taj Mahal - bwyd Indiaidd (yn dda iawn!) a siop bapur newydd. Mae gormod o geir yn gyrru ym Machynlleth. Maen nhw'n mynd yn rhy gyflym.'Rwy'n hoffi y wefan hon - bbc.co.uk - Cymru Canolbarth!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy