"Oddeutu 1941-42 adeiladwyd gwersyll rhyfel ar gyrion pentref Henllan i ddal mil o garcharorion rhyfel. Roedd y safle ymhell o Loegr ac oherwydd fod llawer o fechgyn a dynion lleol ynghlwm a'r rhyfel byddai'r carcharorion yn ffynhonnell barod o weithwyr ar ffermydd de-orllewin Cymru.
Adeiladwyd ysbyty, theatrau, cyrtiau pêl droed, cyrtiau tennis a lawnt bowlio, ceginau, swyddfeydd, cellau, undeau trafnidiaeth, stordai, baddon-dai, golchdy a 30-35 o gabanau i ddal y carcharorion.
Cedwid y rhain yn y cylch mewnol tra roedd y milwyr Prydeinig a'r staff gweinyddu yn y cylch allanol.
Daeth 1200 o Eidalwyr yno yn ystod Mai 1943 - wedi teithio o Libya a Thiwnisia ar long i Glasgow a thrên i Derby, Caerloyw ac i Henllan.
Gwisgai'r carcharorion wisg o liw siocled nwu win tywyll, gyda chylch melyn are eu cefnau ac un arall ar y pengliniau.
Byddai llawer yn gweithio o fewn y carchar ond llawer yn teithio cyn belled â Llanrhystud, Monorbyr, Llandeilo a Chaerfyrddin i weithio ar ffermydd.
Byddai'r rhai oedd yn ymddwyn yn dda yn byw ar y ffermdai gyda teuluoedd.
Yn y gwersyll roedd ganddynt gwmni opera a 'swing band' - hefyd dimau pêl droed a chystadlaethau chwaraeon.
Ond yn eu hiraeth, er roedd llawer ohonynt yn falch o weld caethiwed, oherwydd nid oeddynt yn deall gwleidyddiaeth rhyfela Mussolini a Ffasgaeth yn gyffredinol.
Roedd tri math o garchororion.
Ffasgwyr - terfysgwyr a oedd yn creu helynt parhaol. Fe'u symydwyd i garchar arbennig.
Yn ail, carcharorion oedd yn cyd-weithio gyda'r awdurdodau yn ôl confensiwn Genefa.
Yn drydydd, carcharorion oedd yn fodlon gweithio mewn ffatrioedd i gynhyrchu ffrwydron ac arfau.
Gwacter ysbrydol
Ond roedd rhyw wacter ysbrydol yn eu bywydau, ac are eu cais rhoddwyd un caban gwag iddynt i'w droi yn eglwys a chapel catholig - heb ddim cymorth.
Gwahoddwyd un ohonynt Mario Furlito - un ar hugain mlwydd oed, i arlunio ffresco uwchben yr allor a murluniau ar drawstiau'r nenfwd.
Gorchuddwyd rhannau â phapur o sachau sement, adeiladwyd yr allor a'r reilen o goed a choncrit, y pulpud o focsys y Groes Goch a darllenfa i ddal y Beibl, o hen focsys.
Ond y wyrth fwyaf oedd i'r pileri a'r canwyllbrennau eu gwneud o diniau 'bully beef' a 'cocoa' a'r paent i wneud yr arlunio o lysiau a ffrwythau, growns te wedi eu cymysgu a glud o esgyrn pysgod ac ' eisin glass' - hylif piclo.
Smyglwyd llawer o'r adnoddau i mewn - a'u cuddio mewn gwallt, mewn esgidiau, ac mewn mannau dirgel arall.
Byddai'r carcharorion yn creu modrwyon, clustdlysau, a breichledau er mwyn masnach gudd - a chael tâl o sigarets a siocled.
Yn rhyfeddol, mae'r lliwiau yn dal eu gloywder hyd heddiw a phellach mae'r eglwys sydd ar safle breifat yn atyniad i gyn garcharorion, pobl lleol a phellafoedd byd.
Mario Furlito
Mae Mario Furlito yn 86 oed ac yn byw gyda'i wraig yn Ornavaso, ar lannau Llyn Maggiore yng ngogledd yr Eidal.
Ar wahoddiad disgyblion Ysgol y Ferwig yn 1977, dychwelodd i Gymru am y tro cyntaf i weld gwyrth eu arlunwaith unwaith eto.
Pan gerddodd i mewn i'r eglwys - dywedodd wrthyf.
"Trwy enfys fy nagrau, rwy'n gweld dyddiau fy ieuenctid yn agor o'm blaen fel tudalennau llyfr."
Eglwys Y Galon Gysegredig yw'r unig eglwys o'r fath sy'n sefyll ar dir mawr gwledydd Prydain.
Mae un arall - The Church of The Barriers - i'w gwled ar ynys yng ngogledd yr Alban.
Fel dywed englyn y Parch D Gwyn Evans
'Yno dwylo Eidalwr - a'i bwyntil
A baentiodd Waredwr
Hysbys waith anhysbys wr
Cawn foliant y cyn-filwr.'
Yn 2007, cyhoeddais lyfr yn cofnodi hanes yr eglwys a'r arlunydd. Y Llinyn Arian (Barddas)."
Jon Meirion Jones.