"Dros y flwyddyn nesaf bydd mudiad Merched y Wawr yn cydweithio gydag Oxfam Cymru ar gynllun arloesol i ailgylchu bras fydd yn cyrraedd merched ar draws y byd. Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr yn ystod y lansiad am bwysigrwydd cadw hen fras sydd rhy fach neu rhy fawr o'r bin sbwriel gan fod bywyd hynod bwysig iddynt gyda chymorth Oxfam. Fe gasglwyd dros 450 o fras yn ystod y penwythnos, ac mae'r prosiect yn mynd o nerth i nerth gyda mwy a mwy o fras yn cyrraedd y swyddfa bob dydd. Mae'n amlwg fod pawb yn gweld y cynllun yma yn un bwysig. Mae'n bosib i unrhyw un gasglu bras yng Nghymru a'u rhoi i swyddogion datblygu'r mudiad neu eu hanfon i'r swyddfa yma yn Aberystwyth. Gobeithio y bydd y lle yn fras i gyd cyn bo hir, fel y gallwn gynorthwyo eraill Fe gynhaliwyd y lansiad ar ddiwedd penwythnos preswyl Merched y Wawr sef penwythnos i ddod ag aelodau o ganghennau a chlybiau at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau amrywiol. Roedd y penwythnos yn llwyddiant ysgubol a braf oedd cael lansio ymgyrch mor arbennig fel rhan o'r gweithgareddau eleni. Dwi yn deall bod nifer o ferched Cymru yn brysur yn tacluso eu cypyrddau dillad wythnos yma er mwyn darganfod hen fras ar gyfer yr achos da yma. Mae'r syniad yn un gwefreiddiol. Mae pawb yn taflu ambell i fra i'r bin bob blwyddyn neu yn ymwybodol bod bra neu ddau yng nghefn y cwpwrdd a fydd byth yn cael ei ddefnyddio eto. Dyma gyfle unigryw i helpu eraill drwy roi bywyd hirach i hen fras. Dywedodd Luned Jones, o Oxfam Cymru:
'Mae'n wych cael cydweithio gyda Oxfam Cymru ar gynllun mor arbennig. 'Ry'n ni'n hynod o falch gallu gweithio gyda Merched y Wawr am y tro cyntaf ar ymgyrch mor arbennig. Mae'n braf gweld chwaeroliaeth Cymru, drwy Ferched y Wawr, yn ymestyn i bedwar ban byd. 'Ym myd marchnadoedd dillad ail law mae bra's yn brin. Fel pobl sy'n gwisgo bra bob dydd, mae aelodau Merched y Wawr yn ymwybodol bod bra yn gymhleth i'w gynhyrchu. Mae'r broses yn un dechnegol iawn ac yn gofyn am dipyn o waith adeiladu. Felly mae galw mawr am fras yn y gwledydd sy'n datblygu. Felly pan fydd y bras yma'n cael eu hallforio fe fyddan nhw'n mynd i gwsmeriaid sydd wir eu hangen. 'Felly cofiwch fod beth sy'n sbwriel i chi yn drysor i rywun arall. Ac mae croeso a diolch am bob bra, o bob lliw a llun. Mae yna farchnad, a merch i bob un bra!'" Erthygl gan Lowri Rees
 |