BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Digwyddiadau
Poster Panto FelinfachPantomeim Felin-fach 2009
Rhagfyr 2009
Dwynwen Lloyd Evans sy'n adrodd hanes, Ini Mini Meini Mowr, pantomeim Felin-fach 2009, sydd yn ymddangos rhwng 5 a 12 Rhagfyr.

Ble mae Ffarmwr, Llyfrgellydd, Myfyriwr a Swyddog Datblygu yn dod at ei gilydd i drafod hawliau dynol, rhyddid meddwl ac Undodiaeth?

Ar lwyfan Theatr Felin-fach, ym mhantomeim Ini Mini Meini Mowr, wrth gwrs!

Mae pantomeim Felin-fach yn enwog ers degawdau bellach, ac nid am straeon sy'n ymwneud ag ŵy aur neu goeden hud na hyd yn oed tywysoges sy'n troi'n bwmpen am hanner nos.

Yn hytrach, mae pantomeim Cwmni Actorion Felin-fach yn ymwneud â thema neu hanes lleol neu genedlaethol sy'n berthnasol i'r Gymru wledig.

"Mae digon o'r elfennau arferol mae rhywun yn ei ddisgwyl mewn pantomeim yn ein cynhyrchiad ni," medde Dwynwen Lloyd Evans, pennaeth y theatr, cyfarwyddwr ac arweinydd y prosiect.

"Digon o hud a lledrith, tylwyth teg, canu a dawnsio ac wrth gwrs yr elfen o ddrwg yn ceisio trechu da, ond yn ogystal â'r drygioni cyfarwydd o ariangarwch a hunanoldeb.

" Mae gan ein dynion drwg ni fwriad o racso cymdeithas cefen gwlad a thrwy hynny racso'n hiaith, diwylliant a'n treftadaeth ni."

Cysylltiad Iolo Morgannwg â Felin-fach yw gwraidd stori Ini Mini Meini Mowr.

Roedd Iolo yn gyfaill mawr i David Jenkin Rees, Llwyd Siac, ffermwr diwylliedig a blaenga.

Ac mi roedd y ddau yn allweddol wrth hyrwyddo achos Undodiaeth yn yr ardal, sy'n dal yn cael ei hadnabod, fel rhan o'r Smotyn Du - sef y rhannau hynny o Geredigion lle cydiodd Undodiaeth yn hytrach na Methodistiaeth.

"Mae Iolo Morgannwg yn gymeriad lliwgar iawn yn hanes Cymru fel bardd, diwygiwr, ffugiwr ac athrylith," medd Gary Davies, un o gast y cwmni sydd hefyd wedi cyfrannu at y sgriptio a'r cynhyrchu.

"Ac mae'r panto'n ein cludo ni nôl i'r flwyddyn 1802, cyn fod Iolo wedi sefydlu Gorsedd y Beirdd, cyn Helyntion Beca ac yng nghanol cyfnod cyffrous o newis yn hanes addoli yng Ngheredigion."

Mae'r pantomeim blynyddol yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yng nghalendr y theatr gyda dros 30 o wirfoddolwyr yn cyfrannu at hwyl y cynhyrchiad fel cast neu griw technegol a llwyfan.

Bydd criw hwyliog Dyffryn Aeron yn cwrdd â Iolo Morgannwg ar lwyfan Theatr Felin-fach rhwng y 5 a'r 12 o Ragfyr.



Radio Cymru
Bws BBC Cymru
Trefi


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy