Bydd Bryn Williams y cogydd adnabyddus mewn tyddyn Cymreig s'yn awr yn drysor o ardd deuluol sy'n croesawu gŵyl fwyd fawreddog yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Llai na 30 mlynedd yn ôl roedd yr ardd yma'n gaeau gyda defaid a gwartheg yn eu pori, bellach maent yn lawntydd trwsiadus a gerddi o gwmpas lyn.
Neuadd Glansevern yn awr ydi'r safle sy'n cynnwys un o'r gerddi teuluol mwyaf gwerthfawr sy'n gartref i'r Ŵyl Fwyd Gymreig nodedig ar 4 a 5ed Medi 2010.
Daeth Bryn Williams sy'n enedigol o Ddinbych i'r brig yn ei faes wedi ennill pleidlais y cyhoedd ar raglen deledu, Great British Menu i baratoi bwyd ar gyfer dathliadau y frenhines ar ei phenblwydd yn 80.
Meddai Mr Williams sy'n gogydd a pherchennog y bwyty nodedig Odette yn Primrose Hil, Llundain: "Rwy'n frwd am hybu'r gorau o gynnyrch Cymreig. Dyna ydi'r rheswm yr wyf mor gyffrous i fedru cefnogi'r Ŵyl Fwyd Gymreig."
"Byddaf yn defnyddio cynnyrch Cymreig lleol gymaint ag y medraf yn fy mwydty yn Llundain.
"Credaf mewn defnyddio cynnyrch Cymreig ac rwy'n obeithiol y bydd y bwyd y byddaf yn ei baratoi ar gyfer yr ŵyl yn dangos i ddefnyddwyr pa mor ffantastig ydi cynnyrch cartref."
Gadawodd Neville Thomas a'i wraig Jenny eu bywyd dinesig yn Llundain i ddechrau'r broses o adnewyddu Neuadd Glansevern a'i dod yn ôl i'w chyn ysblander.
Syrthiodd y ddau mewn cariad â'r lle y tro cyntaf ei gwelsant yn 1982.
"Cyn gynted ag y gwelais yr olygfa o'r llyn tua'r ty, gwyddwn fy mod wedi syrthio mewn cariad a'r lle," meddai Jenny Thomas.
"Er nad oedd gennym syniad o'r dasg oedd o'n blaenau, mae wedi rhoi gwir foddhad inni fedru agor y gerddi i'r cyhoedd."
Breuddwyd Neville erioed oedd medru dychwelyd i Gymru, gwlad ei febyd.
Lwc oedd iddynt glywed fod Neuadd Glansevern ar werth.
"Roedd Neville yn wir ysu am fedru dod yn ol i Gymru," meddai Jenny.
Bâr gyfreithiwr enwog yn gweithio yn Hong Kong a Llundain ydi Neville.
Cafodd ei eni yng Ngogledd Cymru ac astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen.
Bu'n gyn holwr Rwsieg ac yn far gyfreithiwr ond Cymraeg yw ei iaith gyntaf a bydd yn ei siarad gyda'i blant Gerran a Meriel.
Mae ei werthfawrogiad a'i gariad at Gymru a'i hanes i'w gweld yn amlwg o gwmpas ei gatref.
Er nad oedd yma ond gardd fechan pan brynson y lle, drwy'r drysni roedden yn medru canfod yr ardd hudol oedd unwaith wedi bod yma.
Roedden yn benderfynol i'w hailgreu i'w chyn ysblander.
Mae hanes yr ardd yn ymestyn dros ddwy ganrif.
Pensaer y tŷ yn Neuadd Glansevern oedd Joseph Bromfield a gafodd ei hurio gan Syr Arthur Davies Owen.
Rhwng 1951 a 1982 newidiodd y perchenogion bedair gwaith a dirywiodd y lle.
Yn 1982 roedd da byw yn pori'r gerddi ac roedd moch wedi bwyta rhisgl y coed.
Yn 1996 agorwyd y gerddi i'r cyhoedd am y tro cyntaf.
:
Heddiw mae'r ardd yn 25 erw ac yn ei gwneud yn un o erddi mwyaf Cymru.
Wedi'i lleoli ar lannau'r Afon Hafren mae'r ardd yn llawn o gorneli a mannau cudd.
Mae Neville a Jenny am hybu Canolbarth Cymru gyda angerdd; nid yn unig y maent yn rhannu eu gardd ond maent am hybu'r gorau o gynnyrch Cymru.
Dywedodd Jenny: "Rydym yn frwd dros hybu'r gorau o Gymru. Dyma pam rydym wedi cytuno i gynnal yr ŵyl yma."
Eleni mae'r ŵyl yn dathlu ei phumed penblwydd ac yn barod mae wedi sefydlu ei lle fel diwrnodau ffantastig i deuloedd eu mwynhau.
Bydd yr ŵyl ddeuddydd yn cymryd lle ar y 4ydd a 5ed o Fedi ac yn rhoi cyfle i gwsmeriaid gyfarfod cynryrchwyr wyneb yn wyneb.
Fel yr Ŵyl fwyaf yng Nghymru a'r gororau mae'n atynnu 6000 o ymwelwyr ac yn arddangos dewis ragorol o'r cynnyrch gorau.
Dydi gwneud elw ddim yn fwriad ond yn hytrach y nôd yw arddangos cynnyrch cynhyrchwyr Cymreig.