Ydych chi wedi ceiso dysgu'r Ffrangeg ac oedd rhediad "avoir" neu "s'asseoir" wedi gwneud i chi eisiau cuddio eich pen mewn jar?
Neu ydych chi wedi rhoi cynnig i'r Sbaeneg a'r gwahaniaeth rhwng "estar" a "ser" yn eich gwneud chi i weld sêr? Beth am yr Almaeneg? Dim blas ar "der, die, das"?
Wel, nawr, does dim esgus i chi roi'r ffidl yn y to wrth ddysgu iethoedd tramor gydag Esperanto. Nawr, mae'n bosib i chi ddysgu'r iaith ryngwladol yn y Gymraeg achos mae'r gwerslyfr cyntaf yn Gymraeg newydd ymddangos.
Arweinlyfr 36 o dudalennau i ddysgu Esperatno yw'r Mini-Cwrs, yn cynnwys deg o wersi, ymarferion darllen a geirfa. Y gŵr sy'n gyfrifol am y fenter yw Harry Barron o Fachynlleth a wahoddwyd i cyfaddasu'r llyfryn o'r fersiwn Saesneg er mwyn dathlu Cynhadledd Esperanto Brydeinig a gynhelir yn Llandudno ym mis Mai eleni.
Iaith yw Esperanto a gyflwynwyd yn 1887 gan Dr. L.L. Zamenhof yn sgil blynyddoedd o waith. Cynigiodd e Esperanto fel ail iaith a fyddai'n caniatáu i bobl sydd â gwahanol ieithoedd brodorol gyfathrebu, gan gadw eu hieithoedd a'u diwylliannau eu hunain yr un pryd. Dydy Esperanto ddim yn ceisio disodli'r un iaith arall; gweithreda fel iaith gyffredin. Cyhoeddwyd yr arweinlyfr bychan cyntaf i'r iaith yn 1910, a chyhoeddwyd geiriadur Cymraeg-Esperanto, Esperanto-Cymraeg yn 1985.
Mae Harry yn gweithio fel aciwbigwr ac fel cyfieithydd yn ardal Machynlleth, ond mae e'n dod yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr. Dechreuodd e ddysgu Esperanto pan oedd e'n ifanc ac yn dal yn yr ysgol. Ar ôl yr ysgol, aeth e i Tsieina er mwyn dysgu'r iaith Tsieineg ym Mhrifysgol yn Shanghai a buodd e'n byw a gweithio yn Ffrainc, yr Almaen a Gwlad Belg hefyd. Flynyddoedd wedyn, derbynodd ei radd yn Acwbigo o brifysgol yn Llundain.
Ar hyn o bryd, mae e'n defnyddio o leia pump iaith yn ei waith dyddiol ond mae e'n dweud, "Mae Esperanto wedi bod yr iaith hawsa i mi ddysgu. Dysgais i fy hunan ac heb help athro, a fe ddes i'n rhugl pan o'n i'n 16 oed, pan o'n i'n ymdrechu gyda'r Ffrangeg a'r Almaeneg o hyd. Mae'n bosibl dysgu digon o Esperanto i gael sgwrs eitha cymhleth ar ôl 3-6 mis o hunan-addysg ac yn bod yn rhugl ar ôl blwyddyn.
Rwy wedi teithio'r byd wrth ddefnyddio dim ond Esperanto a rwy wedi cwrdd â llawer o bobl ddiddorol. Rhai o fy ffrindiau agosa' yw Esperantwyr, sy'n byw tramor a rwy'n ceisio eu gweld nhw mewn Cyfarfodydd Rhyngwladol ac mae rhai yn dod i ymweld â fi yng Nhymru.
Ond rŷn ni'n cadw mewn cysylltiad trwy'r rhyngrwyd ac yn enwedig trwy Facebook, ble mae Esperanto wedi lledu fel tân gwyllt. Yn Wikipedia, mae Esperanto yn rhif 16 yn y rhestr o'r ieithoedd mwyaf poblogaidd ac mae mwy o erthyglau ynddi nag yn y Gymraeg."