| Daeth y dorf fwyaf eto i ŵyl flynyddol y Cobiau yn Aberaeron yn 2006, a drefnwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Mr Clive Hoyles. Mae'r Ŵyl bellach wedi ei sefydlu fel un o brif wyliau ceffylau y calendr Cymreig. Thema Gŵyl 2006 oedd terfysgoedd Beca, pennod diddorol yn hanes Cymru lle bu dynion yn gwisgo fel merched i gadw'n anhysbys, cyn ymosod ar dollfeydd yng Ngogledd Sir Benfro a'u llosgi i lawr fel protest yn erbyn system drethi annheg y cyfnod. Cynhyrchwyd pasiant gan Sabrina Johnson yn ail-greu'r terfysgoedd hanesyddol, a olynwyd gan raglen o fridiau amrywiol o geffylau. Un o uchafbwyntiau yr ŵyl oedd cael gweld enillydd Cwpan Tywysog Cymru yn y Sioe Frenhinol, Llamri Lausanne, a dywyswyd yn gelfydd gan ei pherchennog Mr Gwyn Jones o Styd Bronarth. Roedd y march yn bictiwr ac yn mwynhau'r sylw a'r edmygaeth a ddaeth o'r dorf lleol, a werthfawrogai campau a llwyddiannau y ceffyl hynod yma.
Yr ail uchafbwynt oedd cael gweld perfformiad mor broffesiynol gan Heledd Thomas o Bontsian, Llandysul ar ei cheffyl Dooly, wrth i'r ddau neidio cyfres o glwydi fel na dystiwyd erioed o'r blaen yng Ngheredigion. Heledd enillodd ysgoloriaeth yr ŵyl yn 2005, a pleser oedd cael gweld ffrwyth yr ysgoloriaeth hwnnw wrth iddi feithrin a datblygu eu thalent. Ei uchelgais yw cael bod yn ddoctor, ond ar hyn o bryd ennill yn gyson ar lwyfannau eisteddfodau sy'n cymryd ei bri a rhedeg traws gwlad. Mae Gŵyl Cobiau Aberaeron wedi ei seilio ar Ŵyl lwyddiannus Golega, ym Mhortiwgal, cartref y brid prydferth o Lusitano. Mae'r naill ŵyl yn ddibynnol yn llwyr ar waith gwirfoddolwyr. Mae gan yr Ŵyl flynyddol bresenoldeb barhaol yn y dref bellach, yn sgil codi March enfawr o efydd ger y cae-sgwâr yng nghanol y dref. David Mayer o Swydd Gaerloyw a gynlluniodd y cerflun trawiadol a gyflwynwyd fel rhodd i'r dref gan drefnwyr yr Ŵyl. Mae'r cerflun hwnnw bellach yn destun trafod ac edmygedd ymhlith trigolion lleol ac ymwelwyr i'r ardal. Mae'r cerflun bellach yn symbol gweledol a thrawiadol o gysylltiad hanesyddol y Cob Cymreig â'r ardal leol.
Mae'r ŵyl yn ddyledus iawn i'r gymuned fusnes leol, i drigolion cyffredin, ac i'r Cyngor lleol am eu haelioni ariannol yn ogystal. Cynhelir digwyddiadau codi arian amrywiol drwy'r flwyddyn gan gynnwys raffl, ocsiwn Nadolig a chyngerdd blynyddol. Mae trefnwyr yr ŵyl yn awyddus i ehangu ar lwyddiant 2006 eto yn 2007 - cynhelir eleni ar Awst 12.
 |